Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

g öfafaiil ŵflluiajifl. "BETH MAE'R EGLWYS YN EI WNEYD?" Llawer gwaith mae caseion yr Eglwys wedi gofyn, "Beth mae'r Eglwys wedi ei wneyd 1 Beth mae'r Egiwys yn ei wneyd ? " Rhoddir ateb helaeth mewn rhifyn o'r Quarterly Retiew. Dyma ran o'r ateb : — Oddi ar y flwyddyn 1800, y mae wedi adeiladu tair mil dau cant a phedair o Eglwysi newyddion ; wedi ailadeiladu o'r sylfaen naw cant a phump ar hugain ; wedi adgyweirio a heìaethu llawer yn rhagor na hyny. Felly, y mae dros naw mil o Eglwysi wedi cael eu hadeiladu, eu hailadeiladu, a'u hadgyweirio a'u helaethu, yn ystod y ganrif bresennol. Mae hyn wedi costi, o'r hyn lleiaf, ddeunaw miliwn o bunnau. Nid oes cyfrif iawn pa faint sydd wedi ei roddi tuag at waddcli Eglwysi. Rhaid fod y swm yn fawr. Mae wedi adeiladu dros hum mil o bersondai. "Ië," meddai ei chaseion, " gall fod wedi gwneyd tipyn tuag at adeiladu Eglwysi a phersondai: y mae yr offeiriaid am gael tai da i fyw ynddynt. Ond beth mae yr Eglwys wedi wneyd at roddi addysg i'r genedl ? Mae yr offeiriaid yn erbyn dysgu y bobl. Gwell ganddynt eu cadw mewn anwybodaetb." Taler sylw i'r ffugrau canlynol. Hyn a rydd yr atebiad goreu i'r cwestiwn. Dengys y rhai h'yn pa faint a roddwyd gan yr Eglwys at adeiladu ysgoldai, a pha faint a roddwyd gan y gwahanol Enwadau, yn ystod y deng mlynedd ar hugain diweddaf. Ysgolion yr Eglwys ......3,585,164p. Ysgolion Brytanaidd ...... 220,033p. Ysgolion Wesleyaidd...... 151,942p. Ysgolion Pabaidd ...... 99,650p. Mae yr arian a roddir bob blwyddyn at gynnal yr ysgoì- 101-—Mai, 1875.