Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

<$g|aill Ŵgluipig. "OLL YN UN." Wrth wrando ar yr ail bennod ar bymtheg o Sant Ioan yn cael ei darllen yn yr wythuos cyn y Pasc, tarawodd hyn, megys o newydd, ar fy meddwl, y modd yr oedd Crist yn gweddio dros y rhai a gredent ynddo Ef, am iddynt gael gras i fod oll yn un, megys yr oedd y Tad ynddo Ef, ac yntau yn y Tad. Efe a weddîodd yn y modd hyn ar yr adeg bwysig hòno, sef y nos cyn ei farw. Gofynodd am yr un peth bum gwaith drosodd, ac yr oedd am i'r undeb rhwng ei bobl fod yn amlwg—mor amlwg fel y gallai y byd ei weled. Ehedai fy meddwl ar y pryd trwy'r byd Cristionogol, ac nis gallwn lai na galaru o herwydd y gwahaniaeth sydd rhwug Cristionogion yn eu bywyd a gweddi Crist. Yr ŷm ni yn proffesu ein bod yn credu ynddo, ac yn ddysgyblion iddo, ac eto nis gallwn addoli yn yr un man, na gwneuthur cof am ei angeu wrth yr un bwrdd: yr ydym wedi ymranu i ryw gant a hanner o wahanol sectau. Yr ydym yn casäu ein gilydd, yn rhyfela â'n gilydd, ac yn ceisio dyfetha ein gilydd. Ychydig iawn ydym yn ei feddwl fod Crist wedi gorchymmyn i ni garu ein gilydd, ac wedi gweddio bum gwaith yn yr un weddi ar i ni fod oll yn un. Dywed Ymneillduwyr yn aml y dyddiau hyn fod cymmaint o ymbleidio o fewn i'r Eglwys ag sydd o ynaranu oddi allan i'r Eglwys. Ehaid addef fod ymbleidio yn yr Eglwys, ac y gelwir rhai yn Eglwyswyr Uchel, a rhai yn Eglwyswyr Isel, a rhai yn Eglwyswyr Llydain. Eithr mae hyn o wahaniaeth rhwag Eglwyswr ao Ym- neilldùwr pan yn siarad am ymraniadau crefyddol: mae Ymneillduwyr dysgedig yn dweyd fod ymraniadau yn dda —fod j byd yn well o bonynt; fod mwy o waith yn cael ei 100— Ebrill, 1875.