Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

<$8|aÜI (Sjluîpifl. Y DDAIAR AM THRIGOLION. BELGIUM. Belgium sydd un o deyrnasoedd Ewrop; bychan yw o ran maintioli; nid yw yn mesur mwy na 1P5 o filltiroedd o hyd a 110 o filltiroedd o led, a 11,400 o filltiroedd yn arwynebol; ac feìly, mae ychydig yn llai na Holland ; nid yw hanner cymmaint ag Ysgotland, ac nid yw ddau cymmaint a Chymru. Iii a g\ffìnir o du'r gogledd gan Holland, o du y deheu gan Ff'rainc, o du y dwyrain gan Germani, ac o du y gorllewin gan Fôr y Gogledd. Fel Holland y mae gan mwyaf yn wlad wastattir; nid oes mynyddoedd uchel ynddi ; ond ceir ynddi ucheldiroedd, ac mae iddi goedwigoedá eang. Cyfrifîr fod un rhan o bump o honi yn cael ei gorchuddio gan y coedwigoedd hyny; ceir derw yn lluosog ynddynt; cesglir llawer o gyfoeth oddi wrth y coedydd ; llosgir hwynt yn olosg, yr hwn a fawr ddefnyddir yn y gweithfëydd haiarn, ac mae'r rhisgl yn cael ei ddefnyddio i wneuthur lledr. Ond nid yw coedwigoedd Belgium yn awr yr hyn oeddynt gynt; nid oes yn awr ynddynt fel cynt goed i wneuthur llongau. Pan orchf\ gwyd Belgium gan Ffrainc yn niwedd y ganrif ddiweddaf, torwyd i lawr dros 1,500,000 o erwau o goed gan y Ffrancod i'r dyben o wneuthur llongau rhyfel: yma y cafodd Napoleon Bonaparte goed i wneuthur y llynges rhyfel â'r hon y bwriadodd ymosod ar Loegr. Mae'r rhan fwyaf o Belgium yn dir ffrwythlawn; codir cnydau toreithiog ynddi o bob math o yd, ac felly hefyd y mae'r cnydau gwair a hadau yn hynod doreithiog; a gwrteithir y llin hefyd ytí helaeth yn y wlad. Nid yw y ffermydd ond bychain o ran maintioli, ac nid yw yr offer a ddefnyddir i dori y tir ond cyffredin, ac eto dywedir fod ffermwyr Belgium ym mhlith y goreu a mwyaf medrus m—Mawrth, 1875.