Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

<$g|aiU ŴglttJgsifl. Y DYDD EIRIOLAETH. ÜADwyD y Dydd Eiriolaeth diweddaf, sef dydd i weddîo am fendith yr Arglwydd ar y gwaith cenadol, ar Ddydd Gwyl Sant Andreas, apostol a merthyr. Yr oedd y dydd yn briodol, am fod Sant Andreas yn genadwr o'r dechreuad. Nid cynt y cafodd ef y Messîah, nag yr aeth i chwilio am ei frawd Simon, ac efe a'i dug at yr íesu. Mae'r maes cenadol yn eangu, a drysau newydd yn agor bob blwyddyn. Mae eisieu dynion i'w danfon, ac arian i'w cynnal. Mae yn hawddach cael arian na dynion. Nid ydym i feddwl fod gweddîo dros y genadaeth ar un diwrnod arbenig yn ddigon, ac anghofio y gwaith grasol hwn trwy yr holl fiwyddyn ar ar ol hyny. Dyben penodi un dydd neillduol yw, galw sylw yr holl Eglwys at gyfiwr y paganiaid, commisiwn Crist, addewidion y Beibl, a'i dyledswydd ei hun. Cafodd y dydd fyned heibio mewn llawer Eglwys heb un Gwasanaeth ynddi, ac nid oedd y cynnulleidfaoedd ond teneu ac oeraidd mewn llawer o Eglwysi ereill. Dengys hyn nad ydys wedi galw sylw aelodau'r Eglwys at y ddyled- swydd hon Leb wir alwad am hyny. Yr oedd cynnulliad Uuosog mewn xkai Eglwysi, a gwir deimlad a gwres yn amlwg ynddynt. Mae pob Eglwys fyw ag ysbryd cenadol yn ei meddiannu. Pan fyddo'r Egiwys o dan y gwlith nefol, nid yn unig hi a leda ei gwraidd, ond ei cheinciau hefyd a gerddant. Dylid cadw yr aches cenadol o flaen y gynnulleidfa yn rheolaidd trwy'r flwyddyn. Un ysgub blaenffrwytb y Dydd Eiriolaeth diweddaf oedd boneddiges yn anfon mil o bunnau i Esgob Mauritius, er sefydlu gorsaf genadol ar oror dwyreiniol Affrica. Cofied y plant fod ganddynt rywbeth i'w wneuthur at yr achos cenadol. Yn y gangen o'r Gymdeithas Genadol 97—Ionaw, 1875.