Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

I <$ÍJMtI ŵglmpig. Y DDAIAR A'I THRIGOLION. NORWAY. Norway a elwir gan y brodorion Norge neu Norryfce, sef yw hyny yn ol y Seisoneg, " Northern Kingdom," ac yn ol y Gymraeg, " Y Deyrnas Ogleddol." Mae Norway yn gorwedd o du y gorllewin i Sweden, ac mae'r ddwy wlad yn ffurfio yng nghyd yr orynys a elwir Scandinavia. Bu Norway am ganrifoedd lawer yn gyssylltedig â Denmarc, ac yr oeddynt yn cyfansoddi un deyrnas o dan un brenin; ond yn y flwyddyn 1814 ysgarwyd Norway oddi wrth Denmarc a chyssylltwyd hi â Sweden, ac mae'r undeb hwn wedi parhau hyd heddyw. Y cyssylîtiad â Sweden a berthyn yn unig i'r goron ; mae'r ddwy wlad o dan yr un brenin, ond mae iddynt eu gwahanol seneddau ; Senedd Sweden a elwir " Diet," ond Senedd Norway a elwir " Storthing; " mae i'r senedd ddau dy, y ty uchaf a'r ty isaf, ond etholir y ddau gan y bobl; a chyn y gellir gwneuthur cyfraith rhaid i ddwy ran o dair bleidleisio drosti. Y senedd sydd nîd yn unig i benderfynu y cyfreithiau, ond hefyd i osod trethi a chadarnhau cynghreiriau â gwledydd tramor; ac oddi wrth hyn gwelir fod cyfansoddiad gwladol Norway yn 8eiliedig ar egwyddorion rhyddid Fel ym Mhrydain Fawr, trwy fod etholiad aelodau y senedd yn llaw y bobl, mae llywodraeth y wlad yn ymddibynu ar eu hewyllys hwy; os gwneir cyfreithiau gormesol a gorthrymus mae'r bobl yn atebol ac i ddiolch iddynt eu hunain am danynt. Dewisir y senedd bob tair blynedd. (ìrwlad fynyddig yw Norway ; mae mynyddoedd uchel s mawrion yn rhedeg trwy'r orynys, Scandinavia, am o ddeutu 1200 o filltiroedd, a'r mynyddoedd hyn gan mwyaf sydd yn rhanu Norway oddi wrth Sweden ; ac felly mae Norway yn mesur dros 1000 o filltiroedd o hyd, ond bychan yw ei 96—Rhagfyr, 1874.