Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

§ (ÇsJfaiII <8gI.Jü.jatfl. GWYLIAU Y CYNNÜLL. Mae Gwyliau y Cynuull ar ddiwedd y cynauaf wedi dyfod yn sefydliad yn ein plith. ym mron mor rheolaidd ag ydoedd yu yr Eglwys Iuddewig. Nis gall neb ddweyd mai Iuddewaeth yw hyn, o blegid os oedd rhwymau arnynt hwy i ddiolch i'r Arglwydd am gnwd y maes, y mae yu sicr fod yr uu rhwymau arnom ninnau. Yr ydym, fel gwlad, wecli cael cnwd da eleui, a thywydd da i'w gasglu. Mae'r ofìeiriaíd a'r bobl megys pe baent yn teimlo hyn. Deuant yng nghyd yn lluosog, diolchant yn wresog, a chyfranant yn ewyllysgar at achosion dyn- garol a chrefyddol. Mae ambell i oíFeiriad eto yn meddwl fod pregeth a hymn yn cyffwrdd â'r cynauaf ar y Sul yn ateb yr un dyben. Nid ydym am farnu neb, oud yr ydym yn methu cydweled â hwynt. Nid oes dim yn arbeníg yn hyn; nid oes dim un aberth yn hyn; nid oes dim un ymdrech yn hyn: ymddengys yn rhy debyg boeth-oíFrwm rhad. Heb law talu diolch i'r Arglwydd am drugareddau y cynauaf, yr ydym, trwy y gwyliau hyn, yn dysgu i'n plant gredu a theimlo mai Duw sydd yn beudithio cnwd y ddaiar, mai Efe sydd yn cadw i ni ddefodol wythiìosau y cyûauaf, mai Efe sydd yn rhoddi i'r anifail ei borthiant, ac i ddyn ei fara beunyddiol. Dysgir y gwirionedd hwn ar brydiau ereill, eithr dysgir ef mewn modd arbenig ar Wyliau y Cynnull. Wrth fyned o Eglwys i Eglwys, da genym allu cofhodi o flwyddyn i flwyddyn fod gwelliant parhäus yn cymmeryd lle—gwelliant yn yr adeiladau. Mae Eglwysi newyddion yn eael eu codi, a'r hen Eglwysi yn cael eu hadnewyddu. Maent yn llawer mwy cysurus, ac yn fwy cyflëus i addoli ynddynt, ac yn fwy teilwng o addoliad y Duw byw. Mae 95—Tachwedd, 1874.