Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

<$KfäiIÎ ©gltüpig. Y DDAIAR A'I THRIGOLION. LAPLAND. Lapland yw un o wledydd mwyaf gogleddol Ewrop, ac mae yn perthyn o ran i Sweden ac o ran i Rwssia. Cylch- yuir hi o du y gogledd gan y Môr Rhewlyd, o du y dwyrain gan y Môr Gwyn, o du y deheu gan Sweden, ac o du y gorllewin gan Norway a Môr y Werydd. Tybir y mesura rhwng deg mil a thrigain a phedwar ugain mil o filltiroedd yn arwynebol, ond nis gellir dywedyd gydag unrhyw sicrwydd pa faint yw nifer y trigolion. Mae'r trigolion yn hynod hoff o'u gwìad; ystyriaot hi yn fath o baradwys ddaiarol; ac yn wir pe buasai yr hia ychydig yn fwy tymmerus nis gallasai dim fod yn fwy swynol i'r llygaá na'r golygfëydd anferth o fynyddoedd a bryniau, o goed- wigoedd a llychau, ac o afonydd a dyffrynoedd y rhai a geir ynddi. Yn y gauaf mae'r hin yn arteithiol o oer; Baae mor oer fel ag y mae hyd yn oed y gwirod yn rhewi yn y llestri; mae'r ia ar y llychau a'r afonydd yn hynod drwchus, a gorchuddir gwyneb y wlad ag eira ag sydd bedair neu bum troedfedd o ddyfnder. Yn y gauaf nid yw'r haul yn ymddangos am ddau neu dri mis, ond nid oes tywyllwch caddug er hyny yn barhäus yn ymdaenu dros y wlad; mae gwawr y boreu a Uewyrch y cyfnos yn olynol yn canlyn eu gilydd; ac yn fynych mae'r goleuni gogleddol {aurora borealis) yn ymddangos yn yr awyr; ac mae'r lleuad a'r ser yn llewyrchu ac yn dysgleirio yn ysplenydd yn y ffurfafen; ac felly oaae'r goleuni a geir oddi wrth y pethau hyn yn ddigon i alluogi y trigolion i ddilyn eu helwriaeth a'u galwedigaethau ereill yn nyfnder y gauaf. Ac yn yr haf nid yw'r haul yn maehludo am ddau neu dri mis; ac yn y misoedd hyn mae'r hin yn hynod boeth; ac mae'r ddaiar yn cynnyrchu ei chnydau yn M—Hydref, 1874.