Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

| flfgfaill Ŵglujgaij. Y DDAIAR A'I THRIGOLION. SIBBRIA. Yn ein rhifyn diweddaf, Rhwssia yn Ewrop a gafodd ein sylw, ond yn bresennol nodwn rai o hynodion Rhwssia yn Asia. Gelwir y rhan hon o ymherodraeth Rhwssia mewn iaith sathredig yn Siberia, er ei bod, a llefaru yn fwy cywir, yn cael ei rhaou i ddau ddosbarth, sef Siberia a Thaleithiau Caucasus. Ond ni a ddefnyddion yr enw Siberia am yr oll o Rwssia yn Asia. Treiglir y gair Siberia oddi wrth enw un o'r dinasoedd breninol yr hon a elwir Siber; ond dywedir y swnia'r Rhwssiaid y gair yn Seweria, sef yw hyny, gwlad y gogledd. Mae y wlad eang hon yn mesur fel y tybir © ddeutu 4000 o filltiroedd o hyd, a 1870 o led, a 4,700,000 yn arwynebol; mae yn cyfansoddi yr oll o gyfandir Asia o du y gogledd. Cyffinir hi o du y gogledd gan y Môr Rhewlyd; o du y dwyrain gan foroedd Kamschatka ac Okhotsk; o du y de gan China, Turkestan, a Persia; ac o du y gorllewin gan Rwssia yn Ewrop. | Maeafonydd mawrion yn rhedeg trwy Siberia; mae \ rhai o honynt ym mhlith yr afonydd mwyaf yn y byd; maent yn rhedeg braidd i gyd o'r de i'r gogledd, ac yn ymarllwys i'r MÔr Rhewlyd; y maent yn rhedeg trwy anialdiroedd diffaith gan mwyaf, a chauir hwynt i fyny yn y parthau gogleddol o honynt gan y rhew a'r eira yn yr haf yn gystal a'r gauaf; yn yr haf toddir i raddau y rhew, ac yn y tymmor hyny mae'r afonydd mawrion hyn ym dwyn niëgys ar eü mynwes dalpau anferthol o ia, y rhai a ymddangösant -fel mynyddoedd cribog, ond yn nofio fel Uongàu ár wyneb y dyfroedd, ac maent yn eu harllwys hwynt i't Mér Ehewlyd. Yn y gauâf dywedir fod yr 93—Medi, 1874.