Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

§ Ìlfaill ŵglmpijg. Y DDAIAR AM THRIGOLION. RHWSSIA. Ehwssia, un rhan o'r hon sydd yn gorwedd yn Ewrop a rhan arall yn Asia, yw un o'r gwledydd helaethaf, os nid yr helaethaf, ar wyneb y ddaiar. Mae yn mesur o ddeutu 6000 o filltiroedd o hyd ac yn agos 4000 o filltiroedd o led. Y rhan fwyaf bwysig yw Rhwssia yn Ewrop, ac i'r rhan hon o'r wlad y cyfyngwn yn hreseunol ein sylwadau. Rhenir hi oddi wrth Rhwssia yn Asia gan fynyddoedd Oural, y rhai ydynt o ddeutu 1600 o filltiroedd o hyd, a'r rhai a elwir gan y Rhwssiaid yn i: wregys y ddaiar." Mae braidd yr oll o Rhwssia yu Ewrop yn wastattiroedd eang, parthau o'r rhai sydd ffrwythlawn a chnydfawr. ond parthau ereill ydynt anialdiroedd diffaith. Cylchynir Rhwssia gan foroedd. i'r rhai mae afonydd mawrion yn yraarllwys.. ar ol rhedeg gannoedd lawer o filltiroedd trwy'r wlad. O du'r dwyrain a'r de mae Môr Caspia, i'r hwn mae'r afon fawr Volga ac afonydd ereill yn rhedeg; ac o du'r deheu hefyd mae'r Môr Du, i'r hwn mac'r afanydd Don a Dnieper, yng nghyd â rhai ereill, yn ymarllwys; ac o du y gorllewin mae'r Môr Baltic a'r culforoedd Bothnia a Finland, ac i Fôr y Baltic mae'r afouydd Vistula, Niemen. a Dwiua ac ereilí lawer yn dylifo; ac o du y gogledd mae'r Môr Gwyn a Môr j Werydd Ogleddol, i'r rhai mae afonydd lluosog yn rhedeg. Mae'r moroedd a'r afonydd yn y gogledd yn rhewi yn y gauaf, ac am bump neu chwech mis maent yn gauedig i fasnach. Mae'r brif ddinas, St. Petersburgh, yn gorwedd ar ben pellaf Culfor Finlaud yn y dwyrain, ac nis gellir ei chyrhaeddyd ar y môr ond ym misoedd yr haf. Ond mae porthladdoedd Rhwssia yn y Môr Du, os nad ydym yn camsynied, yn agored i longau masnachol yn y gauaf yn 92—Awst, 1874.