Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

(|gfailt Ŵjlujöjtg. CAMSYNIADAU 0 BARTH I'R EGLWYS. Camsyniad mawr a chyffredin arall a daenir o barth i'r Eglwys ydyw, mai'r Frenines yw Pen yr Eglwys, ac nid Crist—mai hi sydd yn Ben yn lle Crist. Nid oes un camsyniad yn cael ei adrodd yn fwy aml na hwn yn y wasg ac yn y pulpud. Clywais hyn ganwaith a mwy o weithiau: "Crist yw ein Pen ni, ond Ŷictoria yw Pen yr hen Eglwys." Y Frenines, yn wir, ydyw Pen yr holl ddeiliaid yn eglwysig a dinasaidd, eithr nid Pen yn lle Crist, ond o dan Grist. Mae hi yn Frenines, ond nid yn lle Brenin y Breninoedd, ond o dan Frenin y Breninoedd. Mae'r tad yn ben i'r teulu, nid yn lle y Tad yr Hwn sydd yn y nefoedd, ond o dano Ef. Mae'r athrawon yn ben i'r dosbarth, nid yn lle yr Athraw mawr, ond o dano Ef. Arferir geiriau a brawddegau yn aml heb eu hystyried na'u deall. Darllener Erthygl XXXVII., ac yno y gwelir ym mha ystyr y mae " Penrheolaeth Pab ystâd y Deyrnas hon, pa un bynag fônt ai Eglwysig ai Dinasaidd" yn perthyn i'r Frenines; nid yn lle Crist, ond yn lle'r Pab o Rufain. " Nid oes i Esgob Rhufain lywodraefh o fewa y deyrnas "hon o Loegr." Rhaid i bob cymdeithas ddaiarol gael pen daiarol, pa un ai un dyn neu ddwsin o ddynion fyddo y pen hwnw. Mae ambell gymdeithas dros unbenaeth, tra mae ereilì dros werinlywodraeth. Pa un bynag ai unbenaeth neu werinlywodraeth a ddewisir, y mae yn rhaid cael pen o ryw fath. Pwy sydd yn ben y capel? Onid y diaconiaid, neu'r blaenoriaid? Ai Crist sydd yn dewis y gweinidog, yn rhifo ei gyflog, yn penodi yr athrawiaeth sydd iddo 91—Gorphenaf, 1874.