Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

I dÊlJfaHl ŵglrcpifl. CaMSYNIADATJ 0 BARTH I'R EGLWYS. Camsyniad cyffredin arall a wneir o barth i'r Eglwys yw, ei bod yn babyddol yn ei hathrawiaetb.au. Dywedir hyn gan y rhai na wyddant beth yw Pabyddiaeth; a chan y rhai a dybiant mai Pabyddiaeth yw pob peth ag sydd yn wahanol i'r hyn a welant ac a glywant yn y capel. Gwir fod rhai Eglwyswyr yn ymylu ar Babyddiaeth, fel y mae rhai Eglwyswyr ereill yn ymylu ar Ymneillduaeth; ond yn y Llyfr Gweddi y gwelir beth yw daliadau neillduol yr Eglwys. Yn hwn y mae ei Chredoau a'i Herthyglau; mae hwn o fewn cyrhaedd pawb, i'w gael yn gyfan am ddwy geiniog, modd y gallo pob un ddarllen a barnu drosto ei hun. Byddai yn dda i bob Ymneilldüwr fynu Llyfr Gweddi, a'i ddarllen ei hun yn lle gwrando ar ereill. Nid yw pob peth ag y mae Pabydd yn ei wneyd yn babyddol. Mae'r Pabydd yn bwyta bwyd, ond nid yw bwyta bwyd yn beth pabyddol. Mae'r Pabydd yn gwisgo dillad, ond nid yw gwisgo dillad yn beth pabyddol. Mae'r Pabydd yn gweddio ar Dduw, yn credu yn Nuw Dad, Mab, ac Ysbryd Glân; yn credu yn yr Iawn, a gweithred- iadau yr Ysbryd; yn credu fod barn, a nefoedd i'r duwiol, ac uffern i'r annuwiol; ond nid yw'r pethau yna yn babyddol. Os Pabyddiaeth yw arfer ffurf o weddîau, yna mae Newman Hall, a Dr. Thomas, Stockwell, a lluaws ereill o'r Ymneillduwyr, yn Babyddion. Os Pabyddiaeth yw dywedyd Gweddi yr Arglwydd, yna mae llawer o Ymneillduwyr yn Babyddion, a Phabyddion oedd dysgyblion yr Arglwydd Iesu. Os Pabyddiaeth yw penlinio yn yr addoliad cyhoeddus, yna mae pob Ymneilldüwr sydd yn gweddîo yn ei deulu yn Babydd, o blegid ni welais yr un yn gweddio yn ei $Q—Mehefin, 1874.