Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

<WäÜl ŵglttjpig. Y DDAIAR A'I THRIGOLION. PERSIA. Peesia sydd wlad eang yn Asia; mae iddi hanes lien a diweddar ; newidid ei chyffiniau mewn gwahanol gyfnodau. Yn bresennol cyffinir hi o du y dwyrain gan Afghanistan a Beloochistan; o du y de gan Gulfor Persia a Môr Arabia; o du y gorllewin gan Twrci yn Asia, ac o du y gogledd gan Fôr Caspia afr afonydd sydd yn ymarllwys iddo o'r dwyrain a'r gorllewin. Mae yn mesur o ddeutu 1200 o filltiroedd o hyd, ac yn cynnwys o ddeutu 500,000 o íìlltiroedd yn ysgwâr. Mae tarddiad yr enw Persia yn ammhëus ; y dybiaeth gyffredin yw i'r wlad dderbyn yr enw hwn oddi wrth dalaeth o honi a elwir Phars, yr hon yn yr hen amseroedd a elwid Persis. Y Persiaid eu hunain a alwant eu gwlad yn Iran ; yn yr Ysgrythyrau gelwid y wlad hyd amser caethiwed Babilon yn Elam, oddi wrth Elam, mab Sem, ac ŵyr Noah (Gen. x. 22); ond yn yr amser hwnw yr ymddangosodd Cyrus, yr hwn trwy ei ddewrder a'i fedrusrwydd milwraidd, a thrwy y buddugoliaethau a ennillodd, a ddyrchafodd y llwyth i ba un y perthynai i'r fath ddylanwad ac hynodrwydd, fel y gelwid oddi wrth y llwyth hwnw yr holl wlad y teyrnasodd Cyrus arni yn Persia. Efe oedd fab merch Astyages, brenin Media, ac wedi marwolaeth ei ewythr, brawd ei fam, yr hon a elwir yn Daniel, pen. v. 31, yn Darius, ond mewn hanesion Paganaidd yn Cyaxares, efe a deyrnasodd ar y Persiaid a'r Mediaid yng nghyd; efe a sylfaenodd yr ymherodraeth eang yr hon a ddymchwelodd ymherodraeth y Caldeaid ac a ddarostyngodd holl wledydd dwyreiniol Asia hyd derfynau Ewrop. Esaiah, yn pen. xliv. 28, a xlt\ 89—Mai, 1874.