Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

§ <$gfaiU êgluipig. CAMSYNIADAU 0 BARTH I'R EGLWYS. Yn y rhifyn diweddaf o'r Cyfaill, gelwais sylw at un camsyniad mawr a wneir, sef mai yn amser Harri yr Wythfed y cafodd yr Eglwys ei dechreuad. Mae'r Pabyddiou yn dyweyd hyn er mwyn i'r bobl gredu mai rhyw sect wedi codi yn ddiweddar yw'r Eglwys. Mae'r Sectau oll yn dyweyd hyn er mwyn i'r bobl edrych ar yr Eglwys fel sect yn debyg iddynt hwy eu hunain, ac er mwyn iddynt anghofio mai o'r Eglwys y troisant hwy allan. Hyderaf fy mod wedi dangos yn ddigon eglur mai nid codi sect newydd, na chreu Eglwys newydd, eithr diwygio hen Eglwys. a wnaed yn amser Harri yr Wythfed a'i fab Iorwerth y Chweched, a'r Frenines Elisabeth. Diwygiad nid dechreuad a gymmerodd le y pryd hwnw. Camsyniad arall a goleddir, ac a daenir yn gyíFredin yw, mai'r Llywodraeth sydd yn cynnal yr Eglwys; mai'r Llywodraeth sydd yn adeiladu yr Eglwysi, ac yn eu cadw i fyny; mai'r Llywodraeth sydd yn talu cyflogau yr esgobion a'r offeiriaid; mai'r Llywodraeth sydd wedi rhoddi y degymau a'r tiroedd iddi. Clywais rai yn dadleu lawer gwaith fod cyflogau yr offeiriaid yn dyfod o drethi y wlad, megys treth y te a'r siwgr, y trewlwch, y myglys, a'r cwrw, ac y caid y danteithion hyn am hanner eu pris presennol, ond peri i'r offeiriaid fyw arnynt eu hunain. Llefarir pethau tebyg i hyn o bulpudau, ac nid rhyfedd fod y bobl gyffredin mor anwybodus. Dywedir yn aml mai peth hollol anghyfiawn yw i'r Llywodraeth gymmeryd un sect fawr o dan ei nawdd, a chynnal ei gweinidogion, a gadael i'r holl sectau bach i wneyd goreu y gallont drostynt eu hunain. Mae'r bobl hyn yn siarad fel pe bai yr Eglwys a'r holl sectau wedi cael eu geni yr un boreu, ac i'r Llywodraeth ddyfod i'w 88—Ìbrill, 1874.