Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

<$gfaül <gj}liupig. CAMSYNIADAU 0 BARTH I'R EGLWYS. Mae llawer yn coleddu camsyniarìan o barth i'r Eglwys mewn anwybodaeth; nid oes ganddynt fanteision i wybod yn amgenach. Mae ereill, mae achos i dybied, yn coleddu camsyniadau o'u gwirfodd, ac yn eu taenu, er y dylent wybod yn well; mae moddion gwybodaeth yn eu dwy]aw. Mae un camsyuied mawr yn caei ei feithrin, ac wedi cael ei adrodd, a'i ailadrodd gannoedd o weithiau, ac hefyd cael ei gywiro gannoedd o weithiau drosodd; hyny yw, mai Harri yr Wythfed, rhyw dri chan mlynedd yn ol, a sylfaenodd, a greodd, a wnaeth yr Eglwys; mai efe oedd ei thad hi; nad oedd iddi hanes na bodolaeth cyn amser Harri yr Wythfed. Mae'r Sectau, un ac oll, wedi codi, y naill ar ol y llall, ar oì amser Harri yr Wythfed: pethau diweddar ydynt: ond iddynt fyned yn ol at John Knox, John Smith, Robert Brown, Georgë Fox, John Wesley, Thomas Charles, dyna'r Sectau wedi dyfod i'w tarddiad. Yr oedd pymtheg cant o flynyddoedd wedi rhedeg heibio cyn i un o honynt gael ei geni. Teimlant mai pethau diweddar ydynt, ac y maent, yn naturiol iawn, am gredu, a pheri i ereill gredu, mai peth diweddar yw'r Eglwys hefyd; ei bod hi yn yr ystyr hyn yn gydradd â'r Sectau, ac mai yn amser Harri yr Wythfed y daeth hi i fodolaeth. Yr oedd amser Harri yr Wythfed yn gyfnod pwysig iawn i'r Eglwys, o blegid mai yn ei amser ef y dechreuwyd ei diwygio hi; yn amser ei fab, Iorwerth y Chweched, a'i ferch Elisabeth, y cwblhawyd y gwaith. Yn awr, dalier sylw, cyfnod diwygiad yr Eglwys oedd y cyfnod hwnw. Mae diun/giad yr Eglwys yn golygu ei bod 87—Mawrth, 1874.