Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

^gjfail! ŵgtuipijg. Y DDAIAR A'I THRIGOLION. YR AIPIIT. Mae'r Aipht yn wlad enwog mewn hanesyddiaeth ; sonir liawer am dani yn yr Ysgrythyrau ; yr oedd unwaith yn y cynoesoedd yn un o'r teyrnasoedd mwyaf cadarn a chyfoetbog ar wyneb y ddaiar; ond erbyn hyn mae wedi cael ei darostwnt>- i'r fath sefyllfa wael ac isel fel nad yw yn bresennol ond talaeth o Ymherodraeth Twrci; ac yn hyn cyflawnir prophwydoliaeth Eseciel, yr hwn a ddywed am dani yn pennod xxix. 14, 15, " Breniniaeth isel fydd; isaf fydd o'r breniniaeíhau, ac nid ymddyrchaif mwy oddi ar y cenedloedd." Mae Ieremiah yn galw'r Aipht yn pennod xlvii. 3 "Ynys Caphtor," pa eiriau a swnia yn yr Hebraeg " ai Captor" ac ymddengys mai o'i geiriau hyn y tarddodd yr enw Aipht, wrth ba un y gelwid hi ar y cyntaf gan y Groegiaid ac wedi hyny yr adnabyddid hi gan holl wledydd Ewrop. Yn y Beibl Hebraeg gelwir hi wrth yr enw Misraim, yr hwn a dderbyniodd oddi wrth Misraim mab Ham (Gen. x. 6). Ac weithiau gelwir hi yn dir Ham fel yn Salm cv. 23: " Aeth Israel i'r Aipht a Iacob a ymdeithiodà yn nhir Ham." Mae hyn fel yr enw Misraim yn dangos mai hiliogaeth Ham mab Noah a boblogasant yr Aipht wedi y diluw. Gwlad wastad ydyw yr Aipht hyd onid eir i'r parthau deheuol, ac yna mynydd-dir anial ydyw; y rhan gyfan- neddol o honi yw'r holl ddyffryn y llifa'r afon Nile trwyddo; a chan orlifiad blynyddol yr afon hon tros ei cheulenydd mae y llaid sydd yn cuddio gwyneb y wlad yn ei gwrteithio i'r fath raddau fel mae ei meusydd grawn a'i choed ffrwythlawn ym mhlith y mwyaf toreithiog yn y byd. Mae'r wlad yn mesur rhwng 500 a 600 o filltiroedd o hyd, a rhwng 200 a 300 o filltiroedd o led, a chylchynir 86—Chwefror, 1874.