Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

g (Igjfaill ©gluigsij. 18 74. Mae'r ffugrau uchod yn y drefu uchod yn hollol newydd i nij iú welwyd hwy wedi eu cyflëu yn y fath fodd erioed o'r blaen. Mae'r olwg arnynt yn ddyeithr, a braidd y gallwn gael y llaw i'w hysgrifenu yn y dull hwn. Mae hi am roddi 3 yn Ile 4 ar ol y 7, megys y gwnaeth ym mron bob dydd, a llawer gwaith yn y dydd. am dri chant a thrigain a phump o ddyddiau. Mor gryf yw arferiad, pa un bynag ai da ai drwg y byddo. Mae gwers bwysig yn hvn vn ein dysgu i beidio ymarfer â dim ond yr hyn sydd dda. Trefn newydd yw hon i ddangos blwyddyn newydd. Ma' banes yr hen flwyddyn sydd wedi marw wedi bod yn uu pwysig, ac wedi ei ysgrifenu yn gyflawn, a chlywir ef yn cael ei ddarllen yn ei holl fanylion ar dydd agoriad llyfrau hanesion y byd. Bjdd y flwyddyn newydd yn gyffelyb iddi, yn llawn mor bwysig i wlad ac Eglwys, i deuluoedd a phersonau, yn ei dygwyddiadrm a'i damweiuiau, yn ei gorfoledd a'i galar- nadau, yn ci genedigaethau a'i marwolaethau. Ysgrifeuir 1874 ar glawr llawer Beibl i ddangos mai o fewn y flwyddyn hon y cafodd M. neu N. ei enij a gwelir 1874 wedi eu cerfio ar gauad llawer coffm er cofnodi mai o fewn y flwyddyn hon y bu hwn a hwn farw. 0 na welid mwy wedi eu hysgrifenu ar gyfer miloedd o enwau am eu bod o fewn y flwyddyn hon wedi cael eu geni yn Sion, wedi troi at Grist, wedi ymuuo â'i Eglwys, wedi dyfod at ei fwrdd, wedi eu symmud o farwolaeth i fywyd ! Dyma'r symmudiadau a'r cyfnewidiadau a roddant gysur a gorfol- edd pan fo holl flynyddoedd y ddaiar wedi eu dyrwyn i ben. Gydaelodau Eglwys Crist, beth yw ein penderfyniad ni ar ddechreu'r flwyddyn ? Beth ydym yn fwriadu ei 85—Ionawr, 1874.