Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

I <$sfaül (BjlrcjBtj. DYDD SANT MATTHEW EFENGYLWR. Yr oedd Sant Matthew yn apostol yn gystal ag yn efeng- ylwr. Dydd ei wyl yw yr unfed dydd ar hugain o fis Medi. Darllenir Llithiau, Colect, Efengyl, ac Epistol priodol i'r dydd arno. Y Llithiau, yn ol yr hen daflen, yn y boreu ydyut Ecclus. xxxv. a Mat. xxii., ac yn y pryd- nawn Ecclus. xxxviü. a 1 Cor. vi.; ac yn ol y daflen new- ydd, yn y boreu 1 Bren. xix. 15—21, a 2 Cor. xii. 14— 21 a xiii., ac yn y prydnawn 1 Cron. xxix. 1—20, a Marc xv. 42—47, a xvi. Yr Epistol am y dydd yw 2 Cor. iv. 1—6, a'r Efengyl yw Mat. ix. 9—13; a'r Colect sydd fel y canlyn:— " Hollalluog Dduw, yr hwn trwy dy wynfydedig Fab a elwaist Matthew o'r dollfa i fod yn apostol ac yn efengyl- wr; caniatâ i ni ras i ymwrthod â holl gybyddus ddeisyfion ac â thrachwantus serch golud bydol, ac i ddilyn yr unrhyw dy Fab lesu Grist, yr Hwn sydd yn byw ac yn teyrnasu gyda Thi a'r Ysbryd Glân yn un Duw heb dranc na gorphen." Iuddew oedd Matthew, fel yr Apostolion ereill, o ran ei genedl. Ystyr yr enw Matthew yw :< rhodd;" ond gelwir ef gan Marc (pen. ii. .1) a Luc (pen. v. 27) yn Lefi. Diehon mai ei enw fel Publican oedd Matthew, yr hwn a ddefnyddiai am dano ei hun, ac iddo gael yr enw Lefi, wrth yr hwn y gelwir ef gau Marc a Luc wedi ei alwad i fod yn ddysgybl i Iesu Grist. Nid oes genym un prawf i gredu mai o lwyth Lefi yr oedd, ac eto gellir meddwl mai nid tebyg y cawsai yr enw Lefi os nad oedd ef o ran Uinach o'r llwyth hwnw. Publican oedd wrth ei swydd. Gwaith y Publicanod oedd casglu y trethi i'r Llywodraeth Rufeinig, ac un o'r swyddwyr hyn oedd Matthew: efe a gasglai y trethi cyssylltedig â masnach Môr Galilea. Yr Arglwydd n—Rhagfyr, 1872.