Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ì flUía'ül Ŵíluj8»ifl. DYDÜ GWYL SANT IAGO. Dydd gwyl Sant Iago yw'r pumrned dydd ar hugain o fis Gorphenaf. Mae Llithiau, Colect, Epistol, ac Efengyl priodol yn perthyn i'r dydd; a phenodir darllen Credo Saut Athanasius arno. Y llithiau, yn ol yr hen daflen, yn y boreu ydynt Eccles. xxi. a Luc xiii., ac yn y pryd- nawn Eccìes. xxii. a 2 Tim. iv.; ac yn oì y daflen newydd, yn y boreu 2 Bren. i. 1—16 a Luc ix. 51—57, ac yn y prydnawn Ier. xxvi. 8—16 a Mat. xiii. 1—24. Y colect am y dydd sydd fel y canlyn:—" Caniatâ, 0 drugarog Dduw. megys y bu i'th wynfydedig apostol Sant Iago, gan ymado â'i dad ac â chwbl a'r oed.d eiddo, yn ebrwydd ufuddhaû i alwad dy Fab Iesu Grist, a'i ddilyn Ef; felìy i ninnau, gan ymwrthod â holl chwantau y byd a'r cnawd, yn wastad i fod yn barod i ddilyn dy orchymmynion sanctaidd, trwy Iesu Grist ein Harglwydd." Yn Ue'r epistol darllenir Actau xi. 27—30 a xii. 1—3, a'r Efengyl yw Mat. xx. 20—28. Yr oedd dau o'r Apostolion yn myned wrth yr enw Iago. Un oedd Iago, mab Alphëjus, yr hwn gan awduron eglwysig a elwir Iago Fychan; efe oedd yr Iago a elwid brawd yr Arglwydd, ac a enwir yn Actau xv. mewn cyssylltiad â'r Cynghor yu Ierwsalem; bu yn Esgob Ierwsalem am lawer o flynyddoeád; a'r cyfryw oedd ei rodiad cywir a'i fuchedd sanctaidd fel yr adwaenid ef ym mhlith y bobl wrth yr enw "Iago y Cyfiawn." Gosodwyd ef i farwolaeth am gyffesu Iesu Grist; ac efe, yn ol y dybiaeth gyffredin, yw awdwr yr Epistol yn ol Sant Iago. Ond yr oedd Iago arall ym mhlitb yr Apostolion; efe oedd fab Sebedëus, a brawd Ioan, y dysgybl anwyl; a'r Iago hwn yw'r Iago y cedwir ei wyl ar y pummed dydd ar hugain o fis Gorphenaf: gwelir hyn oddi wrth y Llithiau, 70—Hydref, 1872.