Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

§ (^bJhìII ŵglmpijg. YR HEN ÜDARLLENFA DDERWEN. Mae y pulpud wedi dyweyd ei brofiad fwy nag unwaith; niae'r awrlais wedi mynegu ei deimlad; ac y mae'r eeiliog gwynt ar ben y elochdy wedi bod yn traethu ei dywydd. Am danaf fi, yr wyf hyd yma wedi aros mewn dystaw- rwydd; ac ni chlywans fod un o'm chwiorydd wedi bod yn adrodd ei hanes. Y mae genyf hanes i'w roddi, a theim- lad i'w fynegu, ond i mi ddechreu ar y gwaith. Cafodd y pulpud a minnau ein geni yr un dydd. Yr wyf lawer yn hŷn na'r awrlais: nid wyf yn hŷn ua'r clochdy, ond yr wyf yn hŷn na"r ceiliog sydd yn troi ar eî ben: yr wyf yn cofio diwrnod ei osodiad ef. Anhawdd geuych chwi, ef allai, fy nghoelio pan y dy- wedaf fy mod yn cofio yr amser yr oedd Bess yn teyrnasu; ac oddi ar hyny hyd yn awr, yr wyf wedi gweled Uawrer tro ar fyd a llawer tymmor ar dywydd. Bûm am cldegau o fiynyddau ar glawdd y fynwent. Yn y cyfnod hir hwnw, gwelais lawer to ar ol to o'm plant fy hun yn dyfod ac yn myned, a gwelais lawer cenedlaeth o drigolion y plwyf yn codi i fyny ac yn disgyn i'r bedd^ Heddwch fyddo i'w llwch. Yr wyf yn cofio y diwrnod y daeth gwr cadarn ataf, â'i fwyell yn ei law; ac wedi taflu golwg o gylch i mi, dyna efe, â'i holl nerth, yn gosod ei offeryn awchus wrth fy ngwraidd. Nis gwyddwn pa ddrwg oeddwn wedi ei gyf- lawnu i haeddu y fath driniaeth. Meddyliais mai dyn ereulawn oedd ef, ac y dylasai barchu henaint, pe na bai dim ond hyny; ond yr oedd ei amcan ef yn dda; yr oedd yn ei fryd i'm gosod mewn lle oedd well. Y pryd hwnw y cefais yr anrhydedd o gael fy symmud o glawdd y fyn~ went i lawr y cyssegr. Yn lle bod oddi allan, cefais fyned oddi mewn, a chefais y lle blaenaf ond un oddi mewn: nid oedd dim ond y Bwrdd Sanctaidd yn nes ym mlaen na mi. 69—Medi, 1872.