Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

<$Sfaill Ŵfllujpij, DYDD SANT PEDR. Dydd gwyl Sant Pedr yw'r nawfed dydd ar hugain o fis Mehefin; ac mae Gwasanaeth priodol i'r dydd. Darllenir arno Lithiau, Epistol, Efengyl, a Choleet neillduol perthynol iddo. Y Llithiau, yn ol yr hen daflen ydynt, yn yn y boreu Eeclus. xv. ac Actau iii., ac yn y prydnawn Ecclus. ix. ac Actau iv.; ac yn ol y daflen newydd, Esec. iii. 4—15 a Ioan xxi. 15—23 yn y boreu, a Sech. iii. ac Actau iv. 8—23 yn y prydnawn. Yn lle yr epistol darllenir Actau xii. 1 —11, a'r Efengyl yw Sant Matthew xx. 20—28. A'r colect sy fel y canlyn:—"Hollalluog Dduw, yr Hwn trwy dy Fab Iesu Grist, a roddaist i'th Apostol Sant Pedr laweroedd o ddoniau arbenig, ac a orchymmynaist iddo o ddifrif borthi dy braidd; gwna, ni a atolygwn i Ti, i'r holl esgobion a'r bugeiliaid yn ddyfal bregethu dy Sanctaidd Air, ac i'r bobl yn ufuddgar ddilyn yr unrhyw, fel y derbyniont gnron y gogoniarit tragwyddol, trwy lesu Grist ein Harglwydd." Yr oedd Pedr yn enedigol o Bethsaida (Ioan i. 41), ond ymddengys mai yn Capernäum yr oedd yn byw pan y galwyd ef gan yr Arglwydd Iesu (Mat. viii. 5—14). Enw ei dad oedd Ionas, a pbysgotwr oedd wrth ei alw- edigaeth. Yn Ioan i. 35—42, rhoddir hanes yr am- gylchiadau o dan ba rai y daeth Pedr gyntaf at yr Arglwydd Iesu. Ei frawd Andreas oedd un o'r dysgyblion a gly wodd Ioan Fedyddiwr yn tystiolaethu am yr Arglwydd Tesu, mai Efe oedd Oen Duw, yr bwn sydd yn tynu ymaith bechodau y byd; ac Andreas wedi aros un diwrnod gyda'r Iesu a ddaeth at ei frawd Pedr, ac a'i dygodd ef at yr Iesu; a'r Iesu wedi edrych arno a ddywedodd wrtho, "Ti yw Simon, mab Ionah; ti a elwir Cephas, yr hwn a gyfìeithir Careg." Yr un ystyr yw y gair Cephas a'r gair Pedr; y 68—Awst, 1872.