Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

| <$gfaHJ Ŵgturpifl. DYDD SANT IOAN FEDYDDIWR. Mab'b dydd hwn yn syrthio ar y pedwerydd dydd ar hugain o fis Mehefin. Mae Llithiau, Epistol, Efengyl, a Cholect priodol yn perthyn iddo. Y llithiau, yn ol yr hen daflen, yn y boreu ydynt Malacbi iii. a Mat. iii., ac yn y prydnawn Malachi iv. a Mat. xiv. hyd adnod 13; a'r un llithiau a benodir i'w darllen yn ol y daflen newydd, gyda hyn o wahaniaeth, sef mai hyd adnod 7, ac nid yr oll o'r drydedd beunod o Malachi a ddarllenir yn y boreu. Yn lle yr epistol darllenir Esai xl. 1-11, a'r Efengyl yw Luc i. 57—80. A'r colect sy fel y canlyn:—"Hollalluog Dduw, o ragluniaeth pa uh y ganed yn rhyfedd dy was, Ioan Fedyddiwr, ac yr anfonwyd ef i arlwyo ffordd dy Fab Iesu Grist ein Hiachawdwr, gau bregethu edifeirwch. Gwna i ni felly ddilyn ei ddysgeidiaeth a'i sauctaidd fywyd Ef, fel y gwir edifarhäwn yn ol ei bregeth; ac ar ol ei esampl y traethom y gwirionedd yn waatadol, y ceryddom gamwedd yn hyderus, ac y dyoddefom yn ufudd er mwyn y gwirion- edd, trwy Iesu Grist eiu Har<xlwydd." Yr oedd Ioan Fedyddiwr yn ddyn hynod yn ei oes; ac yr oedd wedi ei anfon i gyflawuu gwaith hynod. Yr oedd efe yn brophwyd a mwy na phrophwyd; yr oedd wedi ei anfon o flaen wyneb yr Arglwydd. y Messîah, i barotoi ei ffordd Ef. Am dauo ef y llefodd Esaiah pan ddywedodd, "Llef un yn llefain yn yr anialwch, Parotöwch ffordd yr Arglwydd; gwnewch yn uniawn ei lwybrau Ef;" ac ato ef y cyfeirir pau ddywedir ym Malachi, •' Wele fi yn anfon fy nghenad, ac efe a arloesa y ffordd o'th flaen," ac y chwanegir, '"Wele, Mi a anfonaf i chwi El'ías y Prophwyd cyn dyfod dydd mawr ac ofnadwy yr Arglwydd." Efe a redodd ei yrfa, ac a gyflawnodd ei waith mewn dull 67—Gorphenaf, 1872.