Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

f (Ç-î'jfÄÌll ẃflinjçftig. DYDD SANT BARNABAS. Dydd gwyl Sant Barnabas yw'r unfed dydd ar ddeg o Fehefin; mae Gwasanaeth priodol i'r dydd; penodir darllen Llithiau, Colect. Epistol, ac Efeugyl neillduol arno. Y llithiau, yn ol yr hen daflen, yn y boreu yw Ecclus. x. ac Actau xiv., ac yn y prydnawn Ecclus. xii. ac Actau xv. 1—36; ac yn ol y daflen newydd, yn y boreu Deut. xxxiii. 1—12 ac Actau iv. 31—37, ac yn y prydnawn Nahum i. ac Actau xiv. 8—28. Yn lle yr epistol darllenir Actau xi. 22—30, a'r efengyl yw loan xv. 12—16. A'r colect sy fel y canlyn :—' 0 Arglwydd Dduw Hollalluog, yr Hwn a wisgaist dy sanctaidd Apostol Barnabas â rhagorol roddion dy Ysbryd Glân, na ad i ni, ni a atolygwn i Ti, fod yn ddiffygiol o'th amryw ddoniau, nac eto o ras i'w harfer hwynt bob amser i'th anrhydedd Di a'th ogoniant, trwy Iesu Grist ein Harglwydd." Yr ydym yn darllen am Barnabas yn yr Actau, ac adroddir amryw bethau am dano. Dywedir mai Lefiad oedd. a'i fod yn enedigol o Cyprus; mai ei euw gwreiddiol oedd Ioseph, ond i'r Apostolion ei alw yn Barnabas, yr hyn o'i gyfieithu yw "mab dyddanwch;"* bod tir ganddo ac iddo ei werthu a dwyn yr arian a'u gosod wrth draed yr Apostoliou. A dywedir wrthym ym mhellach mai Barnabas a ddug Paul, wedi ei ddyfod i Ierwsalem, gyntaf at yr Apostolion, ac a fynegodd iddynt pa fodd y gwelsai * Gwel Actau iv. 36. Gair Hebraeg yw Barnabas, a'i briodol ystyr yw "mab prophwydoliaeth." Y gair Groeg ag ydym ni yn gyfieithu yn y íun hon "dyddanwch," a gyfieithir weithiau, "cynghor," a'r prophwydi wrth gynghori a ddyddanent bobl Dduw, ac felly dywed Sant Paul yn 1 Cor. xiv. 3., "Yr hwn sydd yn prophwydo sydd yn llefaru wrth ddynion er adeiladaeth, a chynghor, a chysur." 66—Mehefin, 1872.