Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

| #gfaiil Ŵglujpifl. BREUDDWYD FüREU'R SUL. Ar foreu Sul hafaidd ym Mehefiu, sef y dydd cyntaf o'm hadferiad i iechyd, ar ol bod lawer o wythnosau ar y gwely yu glaf', yr oeddwn yn ddigon cryf i eistedd yn y gadair wrth y ffenestr, yr hon oedd yn agored; a chan fod ein ty yu sefyll mewn gardd hyfryd yn un o gyffiniau Llundain, yr oedd rhosynau cynnaraf y fiwyddyn yn perarogli yr awel esmwyth a anadlai ar fy ngruddiau llwydion, ac a adlouai fy nghorff gwaullyd. Yr oedd clychau hen Eg- lwys y plwyf yn dechreu cauu, ac wrth glywed eu sain cynnefin, cododd hiraeth dwys yn fy myuwes am fyned gyda'm teulu i dy Dduw i addoli. Yr oedd y Beibl a'r Llyfr Gweddi wedi eu gosod ar y bwrdd yn fy ymjl; cym- merais hwy yn fy llaw, gan feddwl dechreu darllen gyda bod y clychau yu dystewi, a'r Gwasauaeth yn dechreu, am uu ar ddeg o'r gloch. Yn y cyfamser, cauais fy llygaid, a thawelais fy nheimladau, trwy feddwl fy mod yu gweled y rhodfa oedd yn arwain i'r Eglwys. a'r prenau a'r blodau o bob tu iddi, a'r lluaws yn myned ar hyd-ddi i addoliad cyhoeddus y dydd. Ar unwaith, tybiwn fy mod yn y fynwent brydferth, ac eto yn methu yn deg â myned i mewn i'r Eglwys, am fod rhyw law anweledig, anorchfygol, yn fy nal yn ol. 0 un i un aeth y gynnulleidfa, yn eu dillad goreu, heibio i mi, a minnau yn ceisio eu dilyn, ond yn methu symmud cam. Aeth plant yr ysgol yn ddwy fyntai drefnus i fyny y grisiau i'r orielau; ac oddi eithr ambell un yn ddiweddar yn brysio ei gamrau, yr oeddwn wedi fy ngadael wrthyf fy hun. Yn ddisymmwth, teimlais fod rhyw un mawr yn bre- sennol gyda mi, ac mewn llais mwyaf sobr a thoddedig, efe a lefarodd wrthyf y geiriau hyn, "0 ddyn marwol, yr hwn, trwy drugaredd Duw, ydwyt wedi cael cenad i ddyfod yn ol o byrth y bedd, gwylia ar dy droed cyn yr elych eto 65—Mai, 1872.