Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ÖHgjfaill (Bgluigsijg. DYDD SANT MARC EFENGYLWR. Dydd Sant Marc yr Efengylwr yw y pumrtíed dydd ar hugain o Ebrill. Mae gwasanaeth neillduol yn perthyn i'r dydd: darllenir Llithiau, Colect, Efengyl, ac Epistol priodol arno. Y Llithiau, yn ol yr hen daflen, yn y boreu ydynt Ecclus. iv. ac Actau xxii., ac yn y prydnawn, Ecclus. v. a 1 Ioan i.; ac yn ol y daflen newydd, yn y boreu Esai kii. 6, a Luc xviii. 31 hyd xix. ] 1, ac yn y prydnawn Eseciel i. hyd adnod 15, a Philip. ii. Yr Epistol am y dydd yw Ephes. iv. 7—16, a'r Efengyl yw Ioan xv. 1—11; a'r Colect sydd fel y canlyn:—" Hollalluog Dduw. yr hwn a ddysgaist dy sanctaidd Edwys â nefol athrawiaeth dy Efengylwr Sant Marc: dyro i ni ras fel na byddom megys plant yn ein cylcharwain gan bob awel o wag ddysgeid- iaeth, eithr ein bod wedi ein sicrhau yng ngwirionedd dy lân Efengyl, trwy Iesu Grist ein Harglwydd." Yn y Colect yr ydym yn gweddîo am ras i lynu yn ddi- ysgog wrth wirionedd yr Efengyl, ac i edrych ein bod wedi ein sicrhau ynddo. A thyma'r wers a ddysgir i ni yn yr Epistol a benodir i'w ddarllen ar y dydd, lle y cynghora yr Apostol Sant Paul yr Ephesiaid i edrych na byddont yn " blantos yn bwhwman," ac yn cael eu cylcharwain â phob awel dysgeidiaeth, trwy hoced dynion, trwy gyfrwysdra i gynllwyn i dwyllo; eithr gau fod yn gywir mewn cariad, gynnyddu o honynt iddo Ef ym mhob peth, yr hwn yw y Pen, sef Crist. Ac yn yr Efengyl (Toau xv.) dysgir i ni yr un wers, lle y cymhara yr Arglwydd Iesu ei Hun i win- wydden, a'i bobl i'r cangenau, ac y cynghora Efe hwynt i Rros ynddo Ef. Efe a ddengys, megys na ddichon y gangen ddwyn ffrwyth onid erys yn y winwydden, felly ^wythau, nis gallant ddwyn ffrwyth lawer er gogoniont i "duw onid arosant ynddo Ef, ac aros o'i eiriau Ef ynddynt. $i—Ebritt, 1872,