Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Öfgfaill ©jlttipijg. DYDD CYFARCHIAD MAIR WYRYF FENDIGEDIG. Y dydd hwn a gyfeiria at gyfarchiad yr angel Gabriel i Mair Forwyn, am yr hwn yr ydym yn darllen yn Luc i. 26—38. Efe a ddywedodd wrthi, "Henffych well, yr hon a gefaist ras; yr Arglwydd sydd gyda thi; bendigaid wyt ym mhlith gwragedd." Hithau a gythryflwyd wrth yr ymadrodd, a meddyliodd pa fath gyfareh oedd hwn, a'r angel a chwanegodd, "Nac ofna, Mair, canys ti a gefaist ffafr gyda Duw; ac wele, ti a feichiogi yn dy groth, ac a esgori ar Fab, ac a elwi ei enw Ef Iesu; Hwn fydd mawr, ac a elwir yn Fab y Goruchaf, ac iddo Ef y rhydd yr Ar- glwydd orseddfa ei dad Dafydd; ac Efe a deyrnasa ar dy Iacob yn dragywydd, ac ar ei freniuiaeth ni fydd diwedd." A phan y gofynodd Mair pa fodd y gallasai hyn fod, a hithau yn forwyn, yr angel a atebodd, "Yr Ysbryd Glân a ddaw arnat ti, a nerth y Goruchaf a'th gysgoda di; am hyny hefyd y peth sanctaidd a enir o honot ti a elwir yn Fab Duw." Am y cyfarchiad hwn y coffëir ar ddydd "Cyfarchiad Mair Wyryf Fendigedig." Cynnelir Gwasanaeth neillduol ar y dydd; dygwydd ar y pummed diwrnod ar hugain o Fawrth bob blwyddyn ; gelwir y dydd yn iaith sathredig y wlad yn "Lady Day," "Dydd yr Arglwyddes," a'r lady neu'r arglwyddes y cyfeirir ati yn yr ymadrodd yw Mair Forwyn, mam yr Arglwydd Iesu. Y Gwasanaeth neillduol ag sydd wedi ei benodi i'r dydd sydd fel y canlyn:—Yn ol yr hen daflen, y llithiau yn y boreu ydynt Preg. ii. a Ioan xii., ac yn yr hwyr Preg. iii. a Tim. iii. Yn ol y daflen newydd, y llithiau yn y boreu ydynt Galarnad i. ]—15 neu Gen. iii. 1—16, a Ioan xiv. 1—15, ac yn yr hwyr Galarnad ii. 1—13, neu 63—Mawrth, 1872.