Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

flíafaill (Bglujpifl. DYDD SANT MATTHIAS, APOSTOL. Dydd gwyl Sant Matthias yw'r pedwerydd dydd ar hugain o Chwefror. Y llithiau am y dydd yn ol yr hen daflen ydynt, yn y boreu, Doeth. xix. a Luc vii.; ac yn y pryd- nawn, Eccles. i. ac Ephes. i.; ac yn ol y daflen newydd, yn y boreu, 1 Sam. ii. 27—36, a Marc i. 21—45; ac yn y prydnawn, Esaiah xxii. 15—25, a Rhuf. vii. 1—8. Yn lle yr epistol, darllenir Act. i. 15—26, a'r Efengyl yw Mat. xi. 25—30; a'r colect am y dydd sy fel y canlyn:— "Hollalluog Dduw, yr Hwn, yn lle Iwdas Fradwr, a ddetholaist dy fFyddlawn was Matthias i fod o nifer y deuddeg Apostol; caniatâ i'th Eglwys, gan fod bob amser yn gadwedig oddi wrth apostoliou gau, gael ei threfnu a'i llywodraethu gan ffyddlawn a chywir fugeiliaid, trwy Iesu Grist ein Harglwydd." Nid oes genym hanes credadwy am Matthias ym mhellach na'r hyn a ddywedir yn yr Actau am dano; nis gwyddom pa le y ganwyd ef, nac o ba alwedigaeth yr oedd; ac nis gwyddom chwaith pa beth a ddaeth o hono wedi iddo gael ei ddewis i fod yn apostol, ni roddir pellach hanes o hono yn y Testament NewyddJ ac felly mae pob sicrwydd yn ei gylch yn terfynu gyda'i etholiad i'r swydd apostolaidd. Dywedir iddo bregethu yr Efengyl yn gyntaf ym mhlith yr Iuddewou, ac yn nesaf yn Asia Leiaf, ac wedi hyny yn y Dwyrain. Dywed un awdwr iddo farw yn Sebostopolis; ond nis gwyddom ym mha wlad yr oedd y ddinas hòno; ond y dybiaeth fwyaf gyffredin yw, iddo ddychwelyd i |erwsalem, ac iddo gael ei groeshoelio yno, ac mai yno y claddwyd ef. A dywedir i Helen, mam Cystenyn Fawr, yr ymherawdwr Cristionogol cyntaf, drosglwyddo gweddillion ei esgyrn ef i Rufain, lle y cedwir ac y perchir hwynt hyd y dydd hwn, yn unol ag 62—Chwefror, 1872.