Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

f <$KjaÜi ŵgtuipig. CYFLWYNIAD CRIST YN Y DEML, YR HWN A ELWIR YN GYFFREDINOL, "PUREDIGAETH Y FENDIGAID FAIR FORWYN." Yr Eglwys a gyssegra ddydd er coÌFäu cyflwyniad Crist yn y Deml, neu buredigaeth Mair Forwyn. Yr ydym yn darîlen am y dygwyddiad yn Luc ii. 22—24, lle dywedir, "Ac wedi cyflawnu dyddiau ei phuredigaeth hi, yn ol deddf Moses, hwy a'i dygasant Ef i lerwsalem i'w gyflwyno i'r Arglwydd; fel yr ysgrifenwyd yn neddf yr Arglwydd, Pob gwryw cyntafanedig a elwir yn sanctaidd i'r Ar- glwydd, ac i roddi aberth yn ol yr hyn a ddywedwyd yn neddf yr Arglwydd, Par o durturod neu ddau gyw colnmen." Y dydd a gyssegrir er cofFâd am y cyflwyniad hwn yw yr ail ddydd o Chwefror. Y Colect a ddefnyddir arno sy fel y canlyn:—" Hollalluog a bythfywiol Dduw, ni a atolygwn yn ufudd i'tb fawredd, megys ar gyfenw i heddyw y cyflwynwyd yn y Deml dy uniganedig Fab yn sylwedd ein cnawd ni; felly ganiatäu o honot ein cyflwyno â chalonau purlan trwy yr unrhyw dy Fab Iesn Grist ein Harglwydd." Yn lle yr Epistol darllenir Mal. iii. 1—5, a'r Efengyl yw, Luc ii. 22—40. Y lîithiau yn y boreu ydynt, Doethineb Solomon o'r Apocrypha, pennod ix., a Marc iii.; ac yn y prydnawn, Doethineb xii., a 1 Cor. xiv.; ond yn ol y daflen newydd o'r llithiau, yr hon a ddaeth i weithrediad ar y dydd cyntaf o'r ftwyddyn hon (1872), y llithiau priodol i ddydd Puredigaeth y Fen- digaid Fair Forwyn ydynt yn y boreu, Ecsod. xiii. hyd adn. 17, a Mat. xviii. 21 hyd xix. 3; ac yn y prydnawn, Haggai ii. byd adn. 10, Actau xx. hyd adn. 17. Ac yn newisiad Uithiau priodol i'r dydd, yr ydym yn ystyried fod y daflen newydd yn rhagori ar yr hen. Yng nghyfiwyniad ein Harglwydd yn y Deml, a phur- 61—Ionawr, 1872.