Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYFAEFOD MAWR EGLWYSIG. (Parhâd o dudalen 285.) Yn ein rhifyn blaenorol, nid aethom ym mhellach na'r cyfarfod prydnawnol ddydd Mawrth. Yn y cyfarfod hwyrol, y testyn oedd, "Profìon y grefydd Gristionogol mewn perthynas ag anffyddiaeth yr oes." Darllenwyd papyrau galluog ar y testyn hwn gan Proffes- wr Lightfoot. y Parch. E. Garbett, y Parch. C. A. Eow, a'r Parch. Wolshani How. Sìaradwyd ar yr un testyn gan Iarll Harrowby, y Cadfridog Burrows, ac ereilì. Yr oedd yr hyn a ddarllenwyd ac a siaradwyd ar y testyn hwn yn rhy ddysgedig i ni roddi un talfyriad o hono. Nid buddiol tori a rhoddi dim ond darn o gadwyn o resymau. Dydd Mercher.—Yn y boreu, y testyn oedd, "Dyled- swydd presennol yr Eglwys yn ei pherthynas â'r Wladwr- iaeth." Pwnc pwysig oedd hwn—un o brif bynciau y dydd. Yr oedd Canon Gregory wedi parotoi papyr arnoj ond nid oedd ef yno i'w ddarllen. Darllenwyd ef gan y Parch. J. Hannah. Ei farn oedd fod y Wladwriaeth yn awr, er ei bod yn proffesu amddiffyn yr Egiwys, yn gwasgu arni, ac yn cyfyngu ar ei rhyddid ac ar ei hiawn- derau. Nid oedd ef am weled y cyssylltiad rhyngddynt yn cael ei dori, ond yr oedd yn meddwl y dylai yr Eglwys gael mwy o awdurdod i drefnu ei phethau priodol ei hun; ac annogai Eglwyswyr i beidio aros nes cyrhaedd hyn. Creodd papyr Canon Gregory gryn dipyn o gynhwrf yn y cyfarfod, ac y mae ei syniadau wedi tynu sylw pob plaid o'r pryd hwnw hyd yn awr. Darllenodd Mr. Welby, aelod seneddol, bapyr arall ar yr un testyn. Yr oedd ef dros gadw y berthynas rhwng yr Eglwys a'r Wladwriaeth fel y mae. Nid oedd yn W—Rhagfyr, 1871.