Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

<$8faUI (Bfllinpifl. Y CYFARFOD MAWR EGLWYSIG. Nid oes genym air Cymreig cymhwys am y gair Seisonig Congress. Y mae yn air newydd yn yr ystyr yr arferir ef yn y dyddiau presennol. Gwyddom fod rhai yn arfer y gair Gongress pan yn ysgrifenu Cymraeg, a gwyddom fod ereill yn hollol groes i fod mor barod i fabwysiadu geiriau estronol. Wel, rhaid i ni wneuthur goreu y medrom, hyd nes y caffom air Cymreig gloew cyfystyr i'r gair Congress. Cynnaliwyd y cyfarfod mawr eleui yn Nottingham, tref boblog yn esgobaeth Lincoln, ar y ddegfed o Hydref, a'r tri diwrnod canlynol. Hwn oedd yr unfed cyfarfod ar ddeg o'r fath a gynnaliwyd yn ysbaid yr un ílynedd ar ddeg diweddaf. Ac os edrychwn ar y llywydd, sef esgob dysgedig Lincoln, ar y testynau a ddewiswyd i siarad arnynt, ar y siaradwyr a fu yn siarad, y papyrau a ddarllenwyd, yr areithiau a draddodwyd, a nifer y gwran- dawyr yn wyddfodol, sef tair mil, rhaid addef fod y cyf- arfod eleni wedi bod mor llwyddiannus, os nad yn fwy llwyddiannus, nag un a fu o'i flaen. Ni amcanwyd y cyfarfodydd hyu i fod yh gyfarfodydd i ffurfio credoau a llunio deddfau ynddynt, eithr i siarad ac ymresymu ar brif bynciau eglwysig, a moesol, a chref- yddol y dydd. Er hyny, y mae llawer awgrym a ddyferir ynddynt o bryd i bryd yu cael ei osod mewn gweithrediad mewn cannoedd o blwyfi. Nid yw tudalenau y Cyfaill yn ddigon helaeth i roddi hyd yn oed grynodeb byr o'r hyn a ddywedwyd yu ystod y pedwar diwrnod. Ein hunig amcan yw llofía ychydig o dywysenau oddi ar y maes helaeth y buwyd arno, er mwyn rhoddi rhyw feddwl i'n darllenwyr ieuainc am yr hyu sydd yn myned ym mlaen. Nos Lun.—Cadwyd cyfarfod neillduol i'r bobl weithgar, a maer y dref yn y gadair. Ymneilldüwr yw'r maer; er 59—Tachwedd, 1871.