Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

dJgjfaUl Ŵglwpifl. FFYNIANT GWLADOL. Cenedl a fendithir gan yr Arglwydd a ffyna ac a lwydda; bydd yn wynfydedig a dedwydd yn ei holl feddiannau, ac yn ei holl berthynasau. (1.) Bydd yn wynfydedig a dedwydd yn ffrwyth ei bru; y plant a enir fyddant luosog; heigiant yn lluaws yng nghanol y tir; yn y teuluoedd, tra fydd y fam fel gwin- wydden ffrwythlawn ar hyd ystlysau y ty, y plant fyddant fel planigion olewwydd o amgylch y bwrdd; pob teulu fel hyn a fydd ynddo ei hun yn ffynnonell ffyniant a llwydd- iant i'r wlad olí ac i'r genedl yn gyffredinol; y meibion a fyddant nid fel drain a mieri yn diffrwytho ac yn andwyo y tir, ond fel planwydd yn tyfu yn eu hieuenctyd, yn hardd yr olwg ac yn beraidd eu ffrwyth; a'r merched, nid fel "ffosydd dyfnion a phydewau cyfyng," yn dal ac yn dinystrio eneidiau, ond fel conglfaen nadd wrth gyffelybrwydd palas, ar unwaith yn gynnaliaeth ac yn gadernid, yn harddwch ac yn addurn i gymdeithas; y meibion a'r merched yn dda eu hiechyd ac yn rhinweddol eu bywyd; yn hoew eu cyrff ac yn rymus eu meddwl; yn sanctaidd eu hymarweddiad ac yn bur eu cymmeriad; yn ofni Duw ac yn cilio oddi wrth ddrygioni; yn anrhydedd i'w gwlad, yn addurn i grefydd, ac yn fendith i'r byd. Pan fyddo gwŷr ieuainc a gwyryfon fel hyn yn harddu moesau, yn addurno crefydd, ac yn moli eu Duw, gellir dy wedyd am wlad eu genedigaeth ei bod hi yn "fendigedig yn ffrwyth ei bru." Gelìir dywedyd am danynt, "Dyma'r had a fendithiodd yr Arglwydd." Di- wellir hwynt yn fore â'i drugaredd, gorfoleddant a llawen- ycharjt ynddo dros eu holl ddyddiau; ffrwythant eto yn eu henaint; tirfìon ac iraidd fyddant i fynegu mai uniawn yw'r Arglwydd eu craig, ac nad oes anwiredd ynddo. Gwyn fyd y genedl mae felly iddynt; mae elfenau llwyddiant yn ei chyf- ansoddiad; mae hadau ffyniant yn gwreiddio o'i mewn. 58—Hydref, 1871.