Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

<$8J[*Ul ŵgltDgsifl. "DYDD YR ARGLWYDD." Nis gall dyn, tra mae yn cael ei gyfansoddi o gorff ac enaid, fod yng ngwasanaeth ei Dduw yn barhäus: dyna yw rhagorfreintiau angylion, ac eneidiau ag sydd wedi ym- ddihatru oddi wrth y corff. Tra y byddom yma ar y llawr, y mae yn rhaid i ni wasanaethu Duw ar amserau penodedig. Yn lle bo dyn yn cael ei adael mewn anser- tenrwydd mater o gymmaint pwys, y mae natur ym mhob oes ac ym mhlith y gwahanol genedloedd, wedi penodi amser penodedig, lle y gallant ymgasglu i addoli Duw yn gyhoeddus. Yr oedd gan yr Iuddewon eu gwyliau cyhoeddus ; ac yr oedd gan y Cristionogion cyntefig eu gwyliau neillduol, fel y gallent ymgynnull i addoli Duw. Yr wyl fiaenaf yw Dydd yr Arglwydd. Pan sylwn ar weithiau awdurol yr amseroedd hyn, cawn weled duwioldeb y Cristionogion mewn eyssylltiad â'r dydd hwn. Gelwir y diwrnod hwn (dydd wedi ei neülduo i addoli Duw) yn Ddydd Sul yn neillduol gan Iustin Ferthyr, o herwydd ei fod yn dygwydd ar y diwrnod yr oedd y paganiaid yn arfer addoli yr haul. Parhaodd yr enw hwn wedi i'r byd ddyfod yn Gristionogol; gelwir ef wrth yr enw hwn yng ngorchymmynion yr ymherawdwyr; ond yr enw mwyaf priodol oedd Dies Dominica (Dydd yr Arglwydd), fel ei gelwir gan Sant Ioan ei hun, sef y diwrnod y cyfododd Crist o'r bedd. Y mae Iustin Ferthyr yn ein sicrhau mai hyn oedd ei ddechreuad. Dywed eu bod yn ymgynnull ar y Sul, sef y dydd y gorphenodd Duw waith y cread, a'r dydd y cyfododd ein Hiachawdwr o'r bedd. Croeshoeliwyd Ef y diwrnod o flaen y Sadwrn, a'r diwrnod canlynol, sef dydd Sul, yr adgyfododd ac yr ymddangosodd i'w ddysgyblion. Cadwyd y diwrnod hwn mewn cof am ddiwrnod Duw, pan orphwys- odd oddi wrth ei lafur. Felly cafodd ei neillduo i addoli 57—Medi, 1871.