Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

($jfaill Ŵjgtujpifl. DYDD YR APOSTOL SANT ANDREAS. Hbb law Colectau y Suliau, y rhai sydd eisoes wedi cael ein sylw, mae gan yr Eglwys Golectau neillduol priodol i ddyddiau arbenig; a'r cyntaf o'r rhai hyn o ran trefn yw y colect am Ddydd Sant Andreas neu Andrew, apostol Iesu Grist a brawd Simon Pedr. Ymddengys oddi wrth Ioan i. 35—41, mai Andreas oedd y cyntaf o'r Apostolion a ddaeth at yr Iesu; ac felly saif ei ddydd ef y cyntaf ym mhlith y dyddiau a gyssegrir er eu coffadwriaeth hwynt gan yr Eglwys; syrthia ar y degfed dydd ar hugain o Dachwedd bob blwyddyn; ac felly cedwir ef o ddechreu'r Adfent—y tymmor ym mha un y dechreua'r flwyddyn eglwysig. Yr Epistol am y dydd yw Rhuf. x. 9—21, a'r Efengyl yw Mat. iv. 18—22, lle y ceir hanes am alwad Sant Andreas a'i frawd Pedr i fod yn ddysgyblion Iesu Grist. Y colect am y dydd sydd fel ycanlyn:—"Holl- alluog Dduw, yr hwn a roddaist ras i'th fendigedig apostol Sant Andreas, fel yr ufuddhaodd efe yn ebrwydd i alwad dy Fab lesu Grist, ac a'i dilynodd ef yn ddioed; caniatâ i ni oll, wedi ein galw gan dy Air bendigedig, yn ebrwydd ymroddi o honom i gyfiawnu yn ufudd dy sanctaidd or- chymmynion trwy yr unrhyw Iesu Grist ein Harglwydd." Ni cheir ond ychydig hanes am yr apostol hwn yn y Testament Newydd; nid oedd yn un o'r rhai mwyaf hynod ym mhlith yr Apostolion. Ei enw, Andreas, sydd air Groeg ac nid Hebraeg, ystyr yr hwn yw "gwr cadarn;" ac mae'r ffaith fod ereill o'r Apostolion heb law Sant Andreas ag enwau Groegaidd arnynt, yn dangos fod yr iaith Roeg yn ffynu yn helaeth ym mhlith yr Iuddewon yn amser ein Hiachawdwr, a bod Uawer o fasnachu rhyngddynt hwy a'r cenedloedd cymmydogaethpl: yr amgylchìad rhagluniaethol hwn a fu yn achlysur i hwylusu lledaeniftd yr Efengyl trwy'r gwledydd. 5$—Aw»t, 1871.