Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

^Sjaili (Sfiiujpifl. CYNNYDD YR EGLWYS. Nid oes ammheuaeth nad yw yr Eglwys yn myned rhagddi yn ei nerth. Nid yw yr Eglwys yn gosod pwys mawr ar gadw cyfrifon, a chyhoeddi ystadegau: ond fel y mae'r ffermwr yn gwybod natur y cnwd sydd yn ei faes, pa un ai tew ai teneu ydyw, heb rifo y tywysenau, felly y mae yn hawdd i'r dyn llygadgraff ddeall ani yr Eglwys, pa un ai cynnyddu neu leihau y mae, heb rifo yr holl aelodau. Mae llawer o'r Enwadau yn rhifo eu pobl ac yn cyhoeddi eu nifer, er mwyn gwneutbur eu cynuydd yn hysbys i'r byd. ünd mae achos i dybied, mai neillochrog yn fynych yw eu cyfrifon. Pan gynnygiwyd, yn y Census diweddaf, rhifo y bobl yn deg, er mwyn cael cyfrif cywir, gwrthwy- nebodd yr Ymneillduwyr y cynnygiad â'u holl egui. Ni ellid dyfeisio dim yu fwy teg a dibartiaetb na gadael i bob un wrth roddi ei enw i lawr, roddi enw ei grefydd hefyd, neu enw y blaid ag yr oedd ef yn ochri iddi. Na, ni wnai hyn ddim o'r tro. Y gwir ag ef yw, nad yw yr Ymneillduwyr am gael cyfrifon cywir am dúeddiadau crefyddol y genedl. Nid ydym yn meddwl y dylid rhoddi yniddiried mawr mewn cyfrifon a ffugrau crefyddol. Yr ydyrn yn cael fod llawer o honynt yn dwyllodrus, ac yn dwyllodrus iawn; ond y mae yr Ymneillduwyr yn gosod pwys arnynt, ac yn gwneuthur llawer o ystŵr yn eu cylch. Am hyny, y mae yn rhyfedd eu bod hwy yn erbyn cael Census crefyddol. Er hyny, nid anhawdd deall y rheswm pa ham. Dichon pe cynnygiasid Census crefyddol i Gymru yu unig, na buasent mor wrthwynebol iddi. Pan yn barnu ansawdd y cnwd yn ei faes, nid yw'r ffermwr yn edrych ar ryw un gongl neu lwyn yn neillduol, eithr efe a fwrw ei olwg dros yr holl faes; felly ninnau, pan yn barnu ansawdd yr Eglwys, ni ddylem gyfyngu ein 55—Gorphenaf, 1871.