Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Öfgjfaill Ŵgluia^ifl. SUL Y DRINDOD. Sul y Drindod yw y Sul nesaf ar ol y Sulgwyn, ac mae'r Suliau ar ol y Drindod yn parhau hyd y Sul cyntaf yn yr Adfent, yr hwn yw y pedwerydd Sul cyn iNadolig. Mae nifer y Suliau ar ol y Drindod weithiau yn fwy ac weithiau yn llai: mae eu nifer yn ymddibynu ar yr amser y dy- gwydda'r Pasc; os bydd y Pasc yn gynnar, lluosogir y Suliau ar ol y Drindod; ac os bydd y Pasc yn ddiweddar, Ueihëir hwynt. Eleni bydd 25 o Suliau ar ol y Drindod. Y gair Trindod a dreiglir o'r ddau air, tri ac undod, tri yn un ac un yn dri; ac eglurir athrawiaeth y Drindod yn y geiriau a geir yng Nghredo Sant Athanasius, lle dywedir ein "bod ni i addoli un Duw yn Drindod a'r Drindod yn Undod, heb gymmysgu o honom y Personau na gwahanu'r sylwedd." Y colect am y Sul hwn sy fel y canlyn:— " Hollalluog a thragwyddol Dduw, yr Hwn a roddaist i ni dy weision ras, gan gyffesu ac addef y wir ffydd i adnabod gogoniant y tragwyddol Drindod, ac yn nerth y Dwyfol Fawredd i addoli'r Undod, nyni a atolygwn i Ti ein cadw yn ddiysgog yn y ffydd hon, ac ein hamddiffyn oddi wrth bob gwrthwyneb, yr Hwn wyt yn byw ac yn teyrnasu yn un Duw byth ac heb ddiwedd." Ac mae colect neillduol yng Ngwasanaeth y Cymmun am y dydd, yr hwn sy fel y canlyn :—" Y mae yn gwbl addas, yn gyfiawn, a'n rhwym- edig ddyled ni yw bob amser ac ym mhob lle ddiolch i Ti, Arglwydd, hollalluog, dragwyddol Dduw, yr Hwn wyt un Duw, un Arglwydd; nid un person yn unig, ond tri pherson mewn un sylwedd; canys yr hyn yr ydym yn ei gredu am ogoniant y Tad, hyny yr ydym yn ei gredu am y Mab ac am yr Ysbryd Glân, heb na gwahaniaeth nac anghyfartalwch." Ýn lle yr epistol, darllenir Dad. iv., lle yr adroddir y 54— Mehefin, 1871.