Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

<$íjfaiH ŵjglttipifl. Y DYRCHAFAEL A'R SULGWYN. I. Dydd y Dyrchafael.—Y dydd yraa, yr hwn sy bob amser ar ddydd lau, ac eleni a syrth ar y ddeunawfed dydd o Fai, a ddygwydda ym mhen deugain niwrnod gwedi'r Pasc. Cedwir ef er coffadwriaeth am ddyrchafiad ein Harglwydd mewn mawr oruchafìaeth i'r nefoedd, yr hyn a gymmerodd le ym mhen deugain niwrnod wedi ei adgy- fodiud o feirw. Arferir Gwasanaeth neillduol arno foreu a hwyr. Darllenir Colect Efengyl ac Epistol, Llithiau, Salinau, a Cholect yng Ngwasanaeth y Cymmun ar y dydd priodol i'r amgylchiad o'r hwn y mae yn goffadwr- iaeth. Y Colect sydd fel y canlyn : — " Caniatâ, ni a atolygwn i Ti, Hollalluog Dduw, megys ag yr ydym ni yn credu ddarfod i'th uniganedig Fab, ein Harglwydd Iesu Giist, ddyrchafael i'r nefoedd, felly bod i ninnau, â meddylfryd ein calon, ymddyrchafael yno a thrigo yn wastadol gydag Ef, yr Hwn sydd yn byw ac yn teyrnasu gyda Thi a'r Ysbryd Glân yn un Duw heb dranc na gorphen." Yn lle'r Epistol darllenir Actau i. 1—11, lle ceir hanes manwl am yr amgylchiadau o dan y rhai yr esgynodd ein Harglwydd i'r nefoedd. A'r Efengyl a ddarllenir yw Marc xvi. 14—20, lle dywedir i'n Harglwydd gael ei gymmeryd i fyny i'r nef, ac iddo eistedd ar ddeheulaw Duw. Y Llithiau o'r Hen Destament ydynt Deut. x., lle y darllenir am Moses yn myned i fyny i'r mynydd at Dduw i dderbyn y gyfraith wedi ei hysgrifenu â bys Duw ar y llechau, ac i gael portreiad y Tabernacl: ac 2 Bren. ii., lle ceir hanes am fynediad Elîas mewn corwynt i'r nefoedd. Ac yn hyn dysg yr Eglwys ni fod mynediad Moses i'r mynydd ac esgyniad Elîas i'r nefoedd yn gysgod o ddyrch- afiad ein Harglwydd i ogoniant. Y Llithiau o'r Testament 53—Mai, 1871.