Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

dUJfaül Ú&W&ltU* • Y PAS C. Y gair Pasc a dreiglir o'r Hebraeg, a'i ystyr yw " llamu heibiö;" cyfieithir ef yn Ecsodus xii. 23 "aä heibio," lle dywedir, " O herwydd yr Arglwydd a dramwya i daro yr Aiphtiaid, a phan welo Efe y gwaed ar gapan y drws ac ar y ddau ystlys-bost, yna yr Arglwydd a ä heibio i'r drws, ac ni ad i'r dinystrydd ddyfod i mewn i'ch tai chwi i ddinystrio." Oddi wrth yr amgylchiad a nodir yn yr adnod hon y gelwid yr wyl Iuddewig Pasc. Ac yn y Seisoneg rhoddir cyfieithad llythyrenol o'r gair pan y gelwir yr wyl yn Passover. Cedwid yr wyl hon ym mhlith yr Iuddewon ar y pedwerydd dydd ar ddeg o fis Abib neu Nisan, yr hwn oedd y mis cyntaf yn eu blwyddyn gyssegredig; a chedwid hi yn goffadwriaeth am waredigaeth Israel o wlad yr Aipht, o dy y caethiwed. A'r wyl Gristionogol, yr hon o ran yr amser o'r flwyddyn ar ba un y cedwir hi, sydd yn cyfateb i'r Pasc Iuddewig, a enwir yn y Gymraeg wrth yr un enw; fel yr wyl Iuddewig, felly yr wyl Gristionogol a elwir genym ni yn y Gymraeg "y Pasc;" nid felly yn y Seisoneg; y Seison a alwant yr wyl Iuddewig yn Passover, a'r wyl Gristionogol yn Easter. Ar wyl y Pasc mae yr Eglwys Gristionogol yn cadw coffadwriaeth am adgyfodiad yr Arglwydd Iesu o'r bedd. Ar ddydd Gwener o flaen Sul y Pasc, yr ydym yn cadw coffadwriaeth am groeshoeliad ein Harglwydd, ac o herwydd hyn gelwir y dydd yn " Ddydd Gwener Croglith." Ni chedwir y Pasc yr un amser bob blwyddyn; mae amser ei ddygwyddiad yn ymddibynu ar y lleuad. Y rheol wrth ba un y penderfynir amser yr wyl yw hon, pa un a roddir yn y Llyfr Gweddi Gyffredin :—" Dydd Pasc ar ba un mae'r lleill yn sefyll yw bob amser y Sul cyntaf wedi'r 52—Ebrül, 1871.