Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

| <$í|aiH Ŵgttupig. Y GARAWYS A'R TRÍ SUL BLAENOROL IDDO. Y tbi Sul o flaen y Garawys a elwir Septuagesima, Secsa- gesima, a Cwincwagesima. Geiriau Lladin yw y rhai hyn, ac ynddynt dangosir nifer y dyddiau rhwng y Suliau yma a'r Pasc. Ystyr Septuagesima yw deg a thrigain, ac fe elwir y Sul wrth yr enw hwn am fod rhyngddo a'r Pasc o ddeutu deg diwrnod a thrigain; ac ystyr Secsa- gesima yw trigain; ac ystyr Cwincwagesima yw deugain. Gelwir y Suliau hyn wrth yr enwau 3~ma i ddangos nifer y dyddiau sy rhyngddynt a'r Pasc. 1. Yn y Colect ani Sul Septuagesima yr ydym yn cyfaddef fod pobl Dduw weithiau yn cael "eu cospi yn gyfiawn am eu camweddau," ac atolygwn iddo wrando yn ddarbodus (hyny yw, yn ffafriol) ar eu gweddîau, fel j byddo iddyut "yn drugarog gael eu hymwared gan ei ddaioni Ef." Yma eydnabyddir fod Duw yn ceryddu ac yn cospi ei bobl, ond ei fod hefyd yn gwrando eu gweddî- au ac yn eu gwaredu hwynt. 2. Yn y Colect am Sul Secsagesima yr ydym yn addef nad ydym yn ymddiried mewn un weithrod a wnelom; ac yn gweddio ar i ni "gael yn drugarog ein hamddiffyn trwy nerth Duw rhag pob gwrthwyneb.', Yma yr ydym yn cydnabod ein gwendid a'n llesgedd, ac yn nesäu at Dduw yn unig am waredigaeth ac amddiffynfa. Ac y mae Efe yn noddfa yn nydd blinder i'w bobl: tŵr cadarn yw enw yr Arglwydd; ato y rhed y cyfiawn, ac y mae yn ddiogel. 3. Yn y Colect am Sul Cwincwagesima yr ydym yn cydnabod "na thâl dim ein holl weithredoedd a wnelom heb gariad perffaith," ac yn gwedd'io ar Dduw am " anfon i ni ei Ysbryd Glân, a thywallt yn ein calonau ragorol ddawn cariad perffaith, gwir rhwymyn tangnefedd, a holl 50— Chwfror, 1871.