Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

<íîfaiH (Sglropifl. UNDEB CRISTIONOGOL. Bu y testyn hwn dan sylw yn y Cyfarfod Mawr Eglwysig, yn Southampton. Hwn oedd testyn y cyfarfod boreuol a phrydnawnoî y pedwerydd dydd, sef y dydd olaf o'r gyn- nadledd. Yr oedd y papyrau a ddarllenwyd a'r areithiau a draddodwyd arno mor dda, nes y dywedodd un, eu bod wedi cadw y gwin goreu yn olaf. Yn y cyfarfod boreuol, ymdriniwyd â'r testyn yn benaf yn ei gyssylltiad â'r Eglwysi tramoraidd, megys Eglwys Groeg, a'r Eglwysi Sclafonaidd, Lutheraidd, a Morafiaidd. Braidd yr awgrymwyd at Eglwys Rufain. Y mae hi wedi ychwanegu erthygl newydd at ei chyfeiliornadau blaenorol, sef anffaelidigrwydd y Pab, a thrwy hyny, y mae wedi myned ym mhellach oddi wrth Eglwysi ereill cied, yn hytrach na dyfod yn nes atynt. Mae'r Pab wedi colli ei allu tymmorol, a thybia rhai y caiff hyny ddylanwad da ar y Babaeth, er ei phuro; tra y tybia ereill fod y Babaeth yn rhy ddrwg i'w meddyginiaethu, ac nad oes dim ond llwyr ddinystr yn eu haros. Darllenodd Iarll Nelson bapyr galluog ar y pwnc o undeb yn gyffredinol. Yr oedd ef yn credu fod undeb hanfodol yn bodoli yn awr yn yr Eglwys Gristionogol, yng nghanol ei holl ymraniadau allanol, ond nid y cyfryw undeb ag a wna foddloni teimlad y Cristion. Yn wir, y mae'r gwir Gristion ym mhob man yn hiraethu am uodeb rhagorach, undeb mwy trwyadì, undeb gweledig, undeb mewn cymmundeb. Er mwyn adferu undeb a chymmun- deb,-yr oedd ef dros wnJlthur Credo Nicea yn ganol- bwynt i'r holl Eglwysi yn y Dwyrain a'r Gorllewin. Ac am yr enwadau crefyddol yn y wlad hon, nid oedd ef am rwymo pob enwad i dderbyn yr un ffurfwasanaeth yn yr addoliad cyhoeddus. Yr oedd ef yn eithaf boddlawn i amrywiaeth yn y dull o ddwyn yr addoliad ym mlaen, 49—lonawr, 1871.