Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

<$gfaiü ŵjgluipifl. ADFENT. Ystyr y gair Adfent yw dyfodiad; treiglir ef o'r Lladin; a gelwir y pedwar Sul cyn Nadolig yn Suliau yr Adfent, o blegid ynddynt mae yr Eglwys—tra yn darparu ein meddyliau i gadw coffadwriaeth am ddyfodiad cyntaf ein Harglwydd—ei ddyfodiad yn y cnawd—mae yn cyfeirio ein syly at ei ail ddyfodiad ar gymylau'r nef i farnu'r byw a'r meirw. Yn y Colectau am y Suliau hyn, mae yn ein dysgu ni pa beth i'w wneuthur, a pha foddion i'w defnyddio i'r dyben o fod yn barod i gyfarfod â'n Harglwydd, ac i ymddangos ger bron ei orseddfainc. Yn y Sul cyntaf yn Adfent, mae yn dysgu i ni yr angenrheidrwydd o ymwrthod â phechod ac arfer rhinwedd. Yn y colect yr ydym yn gweddio am "ras i ymwrthod â gweithredoedd y tywyllwch, ac i wisgo arfau y goleuni yn awf yn amser y bywyd marwol hwn, pryd y daeth Iesu Grist, Mab Duw, i ymweled â ni mewn mawr ostyngeidd- rwydd, fel y byddo i ni yn y dydd diweddaf, pan ddelo Efe drachefn yn ei ogoneddus fawredd i farnu byw a meirw, gyfodi i'r bywyd anfarwol trwyddo Ef." Ac felly y dysgir ni yn yr Ysgrythyr, nas gallwn fod yn barod i gyfarfod â'r Barnwr os byddwn byw mewn 'pechod ac an- nuwioldeb. Yr ydym i buro ein hunain megys y mae Yntau yn bur; yr ydym i ymlanhau oddi wrth bob halogrwydd cnawd ac ysbryd ; yr ydym i ymwadu ag an- nuwioldeb a chwantau bydol, a byw yn sobr, yn gyfiawn, ac yn dduwiol yn y byd sydd yr awr hon ; yr ydym i ymddangos wrth y Bwrdd gyda'r gwahoddedigion yn y wisg briodas, ac i edrych ei bod hi beb ei llychwino, ac yn ddifrycheulyd. Yn yr ail Sul mae yn ein dysgu mai trwy ddarllen a chwilio yr Ysgrythyr Lân y cawn ni afael ar y bywyd tragwyddol, yr hwn a fwynhëir i berffeithrwydd gan y saint yn ymddangosiad eu Harglwydd yn y cymylau. Yn tâ—Rhagfyr, 1870.