Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

flfsJfaHI Ŵglitrgsifl. Y CYFARFOD EGLWYSIG YN SOUTHAMPTON. Trep fawr a phrydferth, ar oror ddeheuol Lloegr, yw Southampton. Yuo y cynnaliwyd y Cyfarfod Mawr Eglwysig eleni, ar yr 11, 12, 13, a'r 14 o Hydref. Hwn oedd y degfed cyfarfod o'r fath. Yr oedd yno neuadd gyflëus wedi ei haddasu at yr achlysur, yn ddigon helaeth i gynnwys dwy fil a hanner o wrandawyr; ac yn rhai o'r cyfarfodydd, yr oedd hi yn Uawn o gongl i gongl. Esgob Rhydychain gynt, yn awr Esgob Winchester, oedd yn llywyddu y cyfarfodydd. Boreu dydd Mawrth, cadwyd Gwasanaeth üwyfol mewn dwy Eglwys—All Saints a Holy Rood. PregeLhodd Esgob Caergaradog yn y naill, ac Esgob Rhydychain yn y llall. Testyn y blaenaf oedd Eseciel xx. 14: "Eto gwnaethym er mwyn fy enw, fel na halogid ef yng ngolwg y cenedl- oedd." Testyn yr olaf oedd Ephesiaid iv. 3: " Gan fod yn ddyfal i gadw undeb yr Ysbryd yng nghwlwm tagnef- edd." Llefarodd un yn gadarn ar brofion y grefydd Gristionogol; dangosodd y llall yn eglur fanteision undeb Cristionogol. Traddododd y llywydd anerchiad rhagarweiniol ar amcanion y cyfarfod mawr blynyddol hwn, ac y mae Esgob Winchester yn enwog am ei ddoethineb, yn gystal ag am ei hyawdledd, wrth gyflawnu swydd cadeirydd. Y pynciau yr ymdriniwyd â hwy oedd y rhai canlynol:— " Y ffordd oreu i fywhau ac helaethu ymdrechion cenadol yr Eglwys mewn gwledydd Tramor." " Y moddion er ennyn ac adfywio bywyd ysbrydol." " Dyledswydd yr Eglwys yn yr amser presennol mewn cyssylltiad ag addysg, a mesur addysg elfenol." " Cynnrychiolwyr lleygol mewn cymmanfaoedd a chyn- aadleddau eglwysig." 47—Tachwedd, 1870.