Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

aül díglttîpig. GWYLIAU DIOLCHGARWCH AM Y CYNAUAF. Mab hanes amryw o'r gwyliau hyn wedi dyfod i'n llaw. Yr ŷm yn ddiolchgar i'n gohebwyr caredig am eu danfon. Mae'r hanesion a roddir yn cynnwys llawer o bethau dyddorol ag sydd yn rhoddi cysur a llawenydd. Byddent yn addysgiadol i'n darllenwyr; ond o herwydd eu bod mor lluosog, yr ydym yn gorfod eu troi oll o'r neilldu. Pe caffent olí ymddangos, llanwent holl dudalenau ein misolyn bychan, ac ni roddai hyny foddlonrwydd i bawb. Pe detholem ryw ychydig o honynt, byddai hyny yn dramgwydd i rywrai. Gwell, ar y cyfan, eu gadael oll allan; cymmered pob un o'n gohebwyr hyn fel ein rheswm dros ein hymddygiad. Y mae yn destyn diolch fod y gwyliau dan sylw wedi dyfod mor gyffredin. Ambell i offeiriad sydd yn awr heb weled y priodoldeb o gynnal cyfarfod diolchgarwch yn ei blwyf. Y rheol yw cadw un; yr eithriad yw peidio cadw un. Mae ambell un, ac yn fwy neillduol yn y trefi, yn cyhoeddi gwasanaeth diolchgarwch i fod ar ddydd Sul. Tebyg ei fod yn gwneuthur hyn er nrwyn arbed traul a thrafferth iddo ei hun a phobl ei ofal. Ar y Sul, y mae Gwasanaeth yn yr Eglwys eisoes, ac y mae yn fwy cyflëus diolch y pryd hwnw nag aberthu dwy awr ar ddydd arall yn yr wythnos at y gwaith. Os oes eisieu poeih offrymau o gwbl, cystal aberthu i'r Arglwydd boeth offrymau rhad. Mae ambell un yn cadw cyfarfod gweddi yn yr ysgoldy, ac yn galw hwnw yn gyfarfod diolchgarwch. Wel, gwelí hyny na llwyr anghofio diolch am y cynauaf; ond ym- ddengys y bobl dda hyn megys pe byddent am gyfyngu y diolch i ychydig etholedigion, yu lle rhoddi gwahoddiad taer, a chyfleusdra teg i bawb i ddyfod i'w byrth Ef â diolch ac i'w gynteddau â mawl. Nid yw pawb yn dewis i§—Hydrtf, 1870.