Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

| <$gfaiîl Ö-jlttgsij. ARCHESGOB ÜSSHER. IUsshbr, archesgob Armagh, yn yr Iwerddon, oedd un o'r idynion mwyaf dysgedig yn ei oes. Efe a anwyd yn y flwyddyn 1580, ym mhlwyf Sant Nicholas, yn Dublin. Yr oecld y teulu o'r hwn yr hanai yn hen ac yn anrhy- deddus. Efe a ddangosai er yn blentyn awydd mawr am lyfrau a dysg; a'r hyn sydd hynod yn ei hanes yw, y dysgwyd ef i ddarllen, ac hyfforddwyd ef yng ngwersi duwioldeb, gan ddwy fodryb iddo, y rhai oeddynt ddeillion o'u mebyd. Pan yr oedd yn wyth mlwydd oed, anfonwyd ef i'r ysgol at James Hamilton a James Fallerton—dau ddyn hynod, y rhai a anfonwyd i'r Iwerddon gan Iago VI., brenin Ysgotland, gan ffugio y cymmeriad o ysgolfeistri i ennill y boneddigion Protestanaid-d yn yr Iwerddon i bleidio ei hawl i goron Lloegr ar farwolaeth y Fi-enines Elisabeth. Parhaodd Ussher yn yr ysgol am bum mly- nedd. Yn y flwyddyn 1593, pan oedd yn dair ar ddeg oed, efe a symmudwyd i Goleg y Drindod, yn Dublin, yn fuan wedi ei orpheniad; ac hyd y dydd heddyw, ym- ddengys enw James Ussber ar y llinell gyntaf o gofrestr y Brif Athrofa; ac felly yr oedd efe ym mhlith yr efryd- wyr cyntaf ym Mhrif Athrofa Dublin. Efe a wnaeth yn fawr o'i amser. Yr oedd yu astudiwr caled; darllenai yn rheolaidd ac yn egnîol: a phan y graddolodd yn y celfydd- ydau, yr oedd nid yn unig yn hyddysg yn y llyfrau a ddefnyddid yn y coleg, ond yn hyuod fedrus mewn hanesiaeth ac amseryddiaeth,. ac yn ddadleuwr parod a champus. Pan oedd yn bedair ar bymtheg oed, efe a ddadleuodd â Henry Fitz-Symonds, yr hwn oedd ysgolhaig dysgedig o Rydychain—gwrthgiliwr oddi wrth Brotestaniaeth i Eg- lwys Rhufain, Iesuitiad ac athronydd wedi ei ddysgu a'i 45—Medi, 1870.