Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

(fgjfaill Ŵglropij. Y CjEtfSUS. Gair Lladin yw census. Y gair Cymreig goreu a wyddom am dano yw "cyfrifiad." Gẃyr y rhan fwyaf o'n darllenwyr ieuainc ei bod hi yn ddefod yn y deyrnas hon i rifo y bobl bob deng mlỳnedd. Gelwir hyn gan y Seison yn census; a thebyg iawn y gwelir y gair yn cael ei arfer yn aml yn y papyrau Cymreig yn ystod y flwyddyn ddyfodol. Daeth i galon y breniu Dafydd unwaith i rifo y bobl, ond o falchder ei galon y tarddodd hyny. Eì amcan oedd gweled pa nifer o wŷr grymus, parod i ryfel, oedd yn Israel a Iwda. Cer- yddodd yr Arglwydd ef a'i ddeiliaid am eu baîchder. Nid yn y weithred yr oedd y drwg, ond yn yr egwyddor o ba un y tarddodd y weithred. Rhifodd Moses y bobl yn yr anialwch, a hyny yn ol gorchymmyn Duw. Pechodd Dafydd wrth rifo y bobl. Ni phechodd Moses. Y flwyddyn nesaf fydd blwyddyn y census eto ym Mhrydain Fawr. Gadewir papyr i'w lanw ym mhob ty. Ar y boreu gosodedig, rhaid rhoddi pob un i lawr ag oedd dan y gronglwyd y nos o'r blaen—o'r baban newydd eni i'r hen bererin ar fin ei fedd. Rhoddir enw po.b un i lawr, oedran pob un, galwedigaeth pob un, sefyllfa pob un, priod neu heb fod yn briod. Fel hyn, mae llawer o ddybenion buddiol yn cael eu hateb wrth gyfrif y deiliaid. Gwelir pa un ai cynnyddu neu leihau mae poblogaeth y wlad; pa un ai estyn neu fyrhaurmae oes dyn; pa un ai llwydd- iannuB neu aflwyddiannus yw'r gwahanol alwedigaethau a'r masnachau. Cyfrifir fud traul y census o ddeutu dau can mil o bunnau. Rhyw ugain mlynedd yn ol, tybiodd rhai y byddai census grefyddol yn beth dymunol a manteisiol. Tynwyd cynllun, ac yn ol y cynllun hwuw, rhifwyd yr Eglwysi a'r capeli, yr eisteddloedd ym mhob Eglwys a chapel, nifer y U—Awst, 1870.