Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ftlaill Ŵjluipijg. MESUR ADDYSG ETO. Pryd yr ydym yn ysgrifenu, y mae Mesur Addysg yn ymlusgo yn araf trwy Bwyllgor Ty y Cyffredin. Rhwng y cyfnewidiadau sydd wedi eu gwneyd ynddo yn barod gan y Weinyddiaeth ei hun, a'r gwelliantau a gynnygir gan elynion a chyfeillion iddo, ammhosibl gwybod pa agwedd fydd arno pau y daw allan. Y mae wedi dianc yn ddianaf heibio y gwelliaut a gynnygiwd gan yr aelod dros Ferthyr Tydfil. Fel cynnrychiolydd y Birmingham League, sef y Bydolwyr a'r Ymneillduwyr sydd mewn cynghrair â hwy, cynnygiodd Mr. Richard, " Na ddylai y cynnorthwyon a roddir i'r ysgolion enwadol presennol gael eu hyehwanegu; ac ym mhob cyfundrefu genedlaethol er rhoddi addysg elfeuol, y dylid gorfodi y plant ym mhob Ue i fyned Tr j-sgol, ac y dylai'r addysg grefyddol gael ei chyfranu ar draul ymdrechion gwirfoddol, ac nid allan o unrhyw drysorfa gyhoeddus." Dygwyd y cynnygiad hwn i gyfarfod â'r mesur ar ei fynediad i mewn i'r pwyllgor, ac nid oedd modd symmud cam ym mlaen, cyn taflu hwn o'r ffordd. Dadleuwyd aruo am bedair noswaith, a phau ranwyd y Ty, .yr oedd 6Q drosto, a 421 yn ei erbyn; felly yr oedd mwyafrif o 361 yn erbyn gwelliaut Mr. Richard. Yr oedd Mr. Richard yn cymmeryd arno i lefaru yn enw y Bydolwyr (sef anffyddwyr) a'r Ymneillduwyr, yn neillduol Ymneill- duwyr Cymru; ac wedi cadw y Ty i siarad bedair noswaith, eto nid oedd ond trigain o'i bíaid. Dengys hyn gymmaint o dwrw a all ychydig ddynion ei gadw. Yr oedd cynnygiad Mr. Richard, mewn geiriau eglur, yn amcanu at ddau beth. Yn gyntaf, attal rhoddi cefuogaeth i'r ysgolion presennol, y rhai a gynnelir yn benaf trwy ymdrechion gwirfoddol. Yn ail, cadw crefydd allan o'r holl ysgolion. éd—Gorphenaf, 1870.