Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

IJfaill ©jgliügsig. YSGRTF WATEIN WILLIAMS. Dywedir mai Eglwyswr yw Watkin Williams, a mab i Offeiriad. Gall yr Eglwys ddyweyd am amryw o'i meibion y dyddiau hyn, "Megais a meithrinais feibion, a hwy a wrthryfelasant i'm herbyn." Ni fyddai yu rhyfedd gweled yr aelod dros Merthyr Tydfil, neu dros sir Aberteifi, neu dros sir Fon, yn dwyn Ysgrif gyffelyb ger bron y Senedd; eithr y mae yn rhyfedd fod un ag sydd yu galw ei hun yn Eglwyswr ac yn fab i Offeiriad, yn gwneuthur ymosodiad ar yr Eglwys er ei dymchwelyd. Dengys hyn fod rhyw bydrnì yn ei egwyddorion. Nid cynnyg ysgythru y pren a wnaeth, er mwyn iddo ddwyn gwell ffrwyth, a mwy o ffrwyth, ond megys y dywed y Papyrau Ymneillduol, gosod y fwyall ar wreiddyn y pren a wnaeth er ei dori i lawr. Ni lwyddodd y waith hon, ond er iddo fethu, dichon ei fod wedi derbyn ei wobr, y wobr ag y mae dynion hunanol a phariseaidd yn ymgeisio am dani. Sylwedd ac amcan yr Ysgrif oedd cymmeryd ei holl feddiannau oddi ar yr Eglwys yng Nghymru, a'u rhoddi at gynnal ysgolion ansectaraidd; hyny yw, a chymmeryd yr esboniad a roddir yn awr ar y gair " ansectaraidd," ysgolion heb un Beibl ynddynt. Ceisia rhai ein darbwyllo y byddai o les mawr i'r Eglwys golli ei meddiannau, ac y byddai yn fwy llwyddianuus nag y mae yn, breseuuol. Dichon fod hyn yn wir; ond yr ydym yn ammheu fod y rhai a ddywedant hyn yn credn hyny eu hunain. Os ydynt yn credu hyn eu hunain, pa ham na wnaut brawf o hyu yn eu meddiannan eu hunain? Khai<i fod yr hyn a fyddai yn dda i'r F^lwys. fod yu dda hefyd i bersonau unigul. Os vw meddianuau yn rhwystr i fod %'n dda, ac i wneuthur daioni, pa bam na fwriant ymaith y meddiannau sydd ganddynt ì Yna credem eu bod yn wirioneddol yn eu hegwyddorion Nos Fawrth, Mai 24, cynnygiwyd ail ddarlleniad yr i2—Mehefin, 1870.