Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ífgfaUl Ŵílw-îaij. ADDYSG. Mae Mr. Forster, yr hwn yw Gweínidog Addysg yng ngweinyddiaeth Mr. Gladstone, wedi dwyn i mewn i'r Ty Cyffredin fesur er cynualiaeth ac eangiad addysg elfenol y bobl. Ac y mae yr ysgrif wedi cael ei darllen yr ail waith; ond ammhossibl dywedyd beth fydd ei thynged, pa un a ddaw allan o'r Ty Cyffredin o gwbl; ac os daw allan, pa gyfnewidiadau a fydd wedi myned trwy- ddynt. Pan ddygwyd y "mesur gyntaf i'r ty, derbyniwyd ef gyda chymmeradwyaeth cyffredinol; ond yn fuan collodd ffafr dosbarth helaeth o Ymneillduwyr ac o gefnogwyr addysg fydol; ac.y mae Ymneillduwyr Cymru o nifer y blaenaf a'r uchaf eu llef ym mhjith ei gwrthwy.. nebwyr. Ac yma ni a roddwn yn fyr ger bron ein dar- Uenwyr fras olwg ar rai o hyuodiou y mesur fel y darllenwyd ef yr ail waith yn Nhy y Cyffredin. I. Cydnabyddir ynddo yr ysgolion pníseunol. Mae y rhai hyn, mor belled ag ydym ni yu gallu gwëîed, i gael eu cynnal fel cynt; y maent i fod dau ofal eu pwyllgorau, ac i dderbyn y gynnaliaeth arferol oddi wrth y Llywodr- aeth. Ac y mae hyn yu eiu tyb ni yn ddoeth; buasai yn ynfydrwydd i ddymchwelyd a diuystriô y sefydliadau ag sydd yn awr mewn gweithrediad, ac yn cyfranu yr addysg goreu a mwyaf effeithiol i'r plaut sydd o fewn eu cyrhaedd. II. Yn y cymmydogaethau a'r plwyfi hyny ag ydynt heb ysgolion effeithiol, darperir yn y níesur foddion i ddiwallu eu hangenion addysgiadol. Rhoddir galìu i'r Byrddau Addysg, y rhai a sefydlir o dan y mesur hwu i sefydlu ysgolion yn y plwyfi a'r cymmydogaethau hyny; ac os metha y Byrddau Addysg wneuthur hyny, yna y 40—Èbrül, 18TÒ.