Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

jaill ŵjjîurpig. BONEDDWYR CYMRU A'R EGLWYS. Addepir ar bob llaw fod yr Eglwys yng Nghymru yn fwy gweithgar nag y bu, a'i bod hi ar gynnydd, ac yn adennill i raddau y tir a gollodd. Addefir hefyd ar bob llaw fod mwyafrif mawr o'r trigolion o'r tu allan i'w muriau, a llawer o honynt yn elynion ehwerwon iddi. Pa gyfran o'r bobl sydd yn glynu wrthi, a pha gyfran sydd wedi cefnu arni, sy bwnc auhawdd ei benderfynu. Barn rhai yw, fod un o bob pedwar yn gyfeillion iddi, a chymmeryd y deuddeg sir gydau gilydd; barna ereill, mai un o bob pump sydd; ereill, mai un o bob saith sydd; a haera yr Ymneillduwyr yn gyffredin, a Rheithor Merthyr Tydfil gyda hwy, mai un o bob deg o breswylwyr Cymru a berthynaut i'r Egìwys. Tebyg nad oes dim un o bob deg ar hugain, os oes un o bob deg a deugain, o'r Cymry pur yn perthyn i'r Eglwys ym mhlwyf poblog Merthyr Tydfil; ond nid oes na chyfaill na gelyn yn ystyried plwyf Merthyr Tydfil yn esampl deg o holl blwyfi Cymru. Dengys yr amrywiaeth barn ar y pwnc, nad oes un safon i brofi yn gywir pa nifer o'r bobl sydd yn Eglwyswyr, mewn cymhar- iaeth i'r Ymneillduwyr; oud rhaid addef fod mwyafrif mawr yn perthyn j'r olaf. Pa fodd y collodd yr Eglwys ei gafael ar y lluaws, ac wrth ddrws pwy y gorwedd y bai, sydd gwestiwn arall, ag amryw atebion wedi eu rhoddi iddo o bryd i bryd. Di- ammheu fod yr achosion yn amrywiol, ond fod gwahanol bersonau yn ol eu gwahanol ragdybiau, yn gosod mwy o bwys ar un achos na'r llall. Gosoda rhai y pechod i gyd wrth ddrws yr esgobion estionol sydd wedi bod yn arolygu yr Eglwys yng Nghymru er ys dau can mlynedd; esgobion heb wybod iaith na deall teimlad y Cymry. Cred y rhai hyn y 38—Chwefror, 1870. ŵ