Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

<$SJ[HÌU Ŵfjllüpifl. Y CYFARFOD MAWR EGLWYSIG. (Parhâd o dudalen 314, 1869.) Y trydydd dydd. Yn y boreu, y testyn oedd, "Gwelliant yng Ngwasanaeth yr Eglwys, pa fodd i ychwanegu y cynnulleidfaoedd, adolygiad y Cyfarwyddiadau (Ritòrics)" Yr' oedd hwn yn gwestiwn mawr iawn a helaeth, a'r papyr cyntaf a ddarllen- wyd arno, oedd gan y Parch. Dr. Blakeney. Dywedodd nad oedd gwisgoedd amryliw, a gorymdeithiau rhwysgfawr, ddim ond rhywbeth i ddenu y cywrain, a dallu y llygaid, ond fod gweddiau y Llyfr Gweddi, Llithiau o A'ir Duw, Salmau a Hymnau, yn cael eu canu, nid gan ychydig, ond gan yr holl gynnulleidfa; a phreÿethu yr Efengyl, yn goìeuo'r deall, ac yn gwresogi'r galon. Nid oedd ef yn hoffi duet yr offeiriad a'r clochydd; ac yr oedd duet yr offeiriad a'r côr canu ym mron mor oer a hyny. Yr offeiriad a'r bobl oedd trefn yr Eglwys. Os oes oerfel- garwch yn yr addoliad, bai y gweiuidog neu'r bobl, neu fai pob un o'r ddau, yw hyny. Nid defodaeth yw'r feddyg- iniaeth. Dywedodd y Parch. W. J. Butler nad oedd yr Eglwys yn awr mor genedlaethol ag y dylai fod, a hyny o herwydd yr ymbleidio oedd oddi fewn iddi, ac o herwydd natur y Gwasanaeth Boreuol a Phryduawnol. Yr oedd y Gwasan- aeth yn dda, trefnus, mawreddog, ac ysgrythyról, eithr yr oedd yn rhy hynafol yn ei iaith, ac yn rhy ddysgedig yn ei frawddegau; i fod yn boblogaidd. Yr oedd ef am i'r Drefn Foreuol a Phryduawnol gael ei gadael a'i defnyddio fel ag y maent, ond carai i'r Litani gael ei harfer ar ei phen ei hun yn amlach. A byddai yn ddymunol arfer Gwasanaethau byrion yn fynych, megys rhan o Air Duw, %7—lonawr, 1870.