Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

%JaüI Ŵjglujpig. Y CYFARFOD MAWR EGLWYSIG. Ctnnaliwtd y Cyfarfod Mawr Eglwysig eleni yn Llyn- lleifiad, ar y 5med, 6fed, 7fed, a'r 8fed o Hydref, a dywedir ei fod mor lluosog, dyddorol, a llwyddiannus ag un a fu o'i flaen. Gwir nad oedd ond ychydig yu wyddfodol yn cyn~ nrychioli y dosbarth Efengylaidd yn yr Eglwys. Yr oedd Deon M'Neil, ac ereill o brif siaradwyr y dosbarth Efeng- ylaidd, wedi tramgwyddo wrth ryw drefniadau bychain, ac wredi tynu eu henwau yn ol. Nid yw hyn yn glod iddynt, nac yn ddoethineb ynddynt, a thebyg eu bod yn gweled hyny erbyn hyn. Ni ddangosodd y cyhoedd fawr o gydymdeimlad â hwy yn eu gwrthwynebiadau plentyn- aidd. Un o brif fanteision y cyfarfod raawr hwn ydyw, i bob golygiad yn yr Eglwys gael cydgwrdd, ac i bob bara gael ei llafar. Mae y naill yn cael clywed beth sydd gan y llall i'w ddywedyd, ac felly yn dyfod i weled nad ydynt mor bell oddi wrth eu gilydd ag y tybient eu bod. Boreu y dydd cyntaf, cadwyd Gwasanaeth Dwyfol yn Eglwys Sant Michael. Cynnwys yr Eglwys ddwy fil a hanner o bobl, ac yr oedd wedi ei gorlenwi ym mhob rhan. Yr oedd yno dri chant o gantorion wedi dyfod yng nghyd o wahanol gorau yr Eglwysi yn y dref. Traddodwyd y bregeth gan Ddeon Caerlleon, oddi ar Philip. ii. 4: "Nac edrychwch bob un ar yr eiddoch eich hunain, eithr pob un ar yr eiddo ereill hefyd." Condemniodd y deon gulni barn ym mhob Eglwys, plaid, a sect, ac annogodd bawb i gydnabod yr hyn sy dda ym mhob Eglwys ac enwad o Gristionogion. Mae rhyw dda yn Eglwys Groeg, Eglwys Rhufain, y gwahanol bleidiau yn Eglwys Lloegr, ac yn yr Enwadau o'r tu allan i'r Eglwys. Ac wrth edrych ar yr hyn sy dda ym mhob plaid, y mae gobaith am gadw undeb, ac adferu undeb. 36—Rhagfyr, 1869.