Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ftlâiìî ftJ'îíŵi'BJÌ. Y DIWYGIAD PBOTESTANAIDD. Y Diwygiad Protestanaidd yn Lloegr a ddechreuwyd o dan Harri VIII., a daeth rhagddo ac a gynnyddodd o dan ei fab Torwerth VI.; ond rhwystrwyd ef, ac i raddau a attaliwyd yn ei gynnydd, o dan ei ferch Mari I., yr hon yn gyffredin a elwir Mari Waedlyd; ond yn y diwedd a or- phenwyd ac a berffeithiwyd o dan ei ail ferch Elisabeth. Y Diwygiad oedd un o'r chwyldroadau mwyaf y ceir son am danynt mewn. hanesyddiaeth, ac fe ddichon mai nid anfuddiol fyddai i ni osod ger bron ein darllenwyr y prif gyfnewidiadau a gymmerasant le oddi tano; ac wrth nodi y cyfnewidiadau hyn, ni a ddangoswn y prif bethau yn y rhai y gwahaniaetha Eglwys Ddiwygiedig Lloegr oddi wrth Eglwys Rhufain. I. Dymchwelwyd uchafiaeth y Pab. Cyn y Diwygiad, cydnabyddid y Pab yn ben yr Eglwys yn Lloegr: appelid o'r llysoedd barn yn y deyrnas at y Pab, ac ystyrid ei ben- derfyniad ef yn derfyn ar yr ymryson. Mewn cydnabydd- iaeth o'r uchafiaeth hon, Harri VIII. a geisiodd gan y Pab i gadarnhau ei ysgariaeth oddi wrth ei wraig, y Frenines Catherine; ond gwrthododd y Pab wneuthur hyny. A'r brenin o ganlyniad a gymmerodd y peth i'w law ei hun: dygwyd deddf seneddol i mewn yn yr hon y gwrthodid uchafiaeth ac awdurdod y Pab: a'r ddeddf hon a osododd derfyn ar appeliadau o lysoedd barn y deyrnas i lys y Pab yn Rhufain. Penderfynwyd fod pob achos, gwladol ac eglwysig, i gael ei benderfynu o fewn y deyrnas, ac nad oedd neb yn uwch na'r brenin o fewn terfynau ei lywodr- aeth. II. Yn amser y Diwygiad y cyfieithwyd y Beibl a'r Llyfr Gweddi Gyffredin i iaith y bobl. Hyd yn hyn ni 35—Tachwedd, 1869.